Neidio i'r prif gynnwy

Planned care FAQs

29/04/21
Beth os byddaf yn newid fy meddwl?

Os byddwch yn newid eich meddwl, nid yw hynny'n broblem gan mai chi biau'r penderfyniad. Rhowch wybod i ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a ddarperir ar eich llythyr a hynny cyn gynted â phosibl os na fyddwch yn awyddus i dderbyn llawdriniaeth neu driniaeth mwyach. Rhowch wybod i ni hefyd os ydych wedi penderfynu yr hoffech barhau gyda'ch llawdriniaeth neu'ch triniaeth hyd yn oed os ydych wedi penderfynu peidio â gwneud hynny'n flaenorol a chaiff eich opsiynau eu trafod unwaith eto.

29/04/21
Beth am fy hawl i ddewis?

Unwaith y byddwch wedi trafod eich opsiynau yn ystod eich ymgynghoriad, mae gennych 14 diwrnod i wneud penderfyniad yn seiliedig ar yr opsiynau a drafodir a gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio'r wybodaeth a ddarperir yn eich llythyr. Byddwn yn cysylltu â phob un o'n cleifion ar y rhestr aros er mwyn canfod beth yw eu hanghenion yn hytrach nag aros nes cynnig apwyntiad iddynt.

29/04/21
Beth fydd yn digwydd os yw fy nghyflwr wedi gwaethygu ers i mi gael fy nghyfeirio?

Defnyddiwch y manylion cyswllt yn y llythyr yr ydych wedi'i dderbyn gennym er mwyn rhoi gwybod i ni sut mae'ch cyflwr wedi newid. Yna, caiff hyn ei adolygu ac os bydd unrhyw bryderon, byddwn yn cysylltu â chi er mwyn trafod apwyntiad i drafod hyn ymhellach.

Gallwch gysylltu â'ch meddyg teulu am gymorth pellach hefyd.

29/04/21
A fydd angen i mi ddefnyddio cyfrifiadur/gliniadur neu ddyfais ffôn clyfar ar gyfer fy ymgynghoriad?

Mae nifer o ffyrdd y gallwn gysylltu â chi ar gyfer eich ymgynghoriad. Caiff y dull gorau o wneud hynny ei drafod gyda chi ymlaen llaw.

29/04/21
Pam mae'r Bwrdd Iechyd wedi ysgrifennu ataf am restrau aros?

Ar ddechrau'r pandemig COVID-19 ac ynghyd â Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau eraill yng Nghymru ac yn y DU, bu'n rhaid i ni ohirio gweithredoedd wedi'u cynllunio er mwyn gofalu am gleifion â COVID-19. O ganlyniad, mae gennym gleifion erbyn hyn a fydd yn aros yn hirach am eu gweithredoedd a'u triniaethau wedi'u cynllunio.

Rydym bellach mewn sefyllfa i ailddechrau gwasanaethau ac mae ein clinigwyr yn blaenoriaethu llawdriniaethau a gweithredoedd yn nhrefn blaenoriaeth glinigol. Ar ôl adolygu ein cleifion yn glinigol, rydym yn cysylltu â chi er mwyn deall p'un a oes unrhyw beth wedi newid o ran eich amgylchiadau ers y pandemig ac ers i chi gael eich ychwanegu at y rhestr aros yn y lle cyntaf. Mae'n bwysig i ni ddeall eich cyflwr clinigol a'ch gofynion presennol.

Bydd y llythyr yn rhoi gwybod i chi beth i'w wneud nesaf yn seiliedig ar eich penderfyniadau a bydd yn gyfle i chi rannu gwybodaeth newydd gyda ni. 

29/04/21
A fydd fy meddyg teulu'n ymwybodol o hyn?

Bydd meddyg ymgynghorol yn cysylltu â'ch practis meddyg teulu er mwyn rhoi gwybod iddynt p'un a ydych wedi penderfynu i'ch enw gael ei ddileu oddi ar y rhestr aros neu os hoffech gael apwyntiad i drafod eich cyflwr a'ch opsiynau.

29/04/21
A oes modd i mi drafod hyn gyda'm meddyg ymgynghorol neu'r darparwr gofal iechyd?

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, trafodwch y rhain gyda ni trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt a ddarperir yn eich llythyr. Caiff apwyntiad ei drefnu gyda chi naill ai trwy gyswllt fideo, wyneb yn wyneb neu dros y ffôn i drafod hyn ymhellach.

Os hoffech ganslo neu ohirio eich gweithred neu'ch triniaeth, mae croeso i chi gysylltu. Byddwch naill ai'n cael eich rhyddhau neu bydd apwyntiad yn cael ei drefnu i drafod hyn ymhellach os teimlwn y dylech barhau i gael triniaeth.

29/04/21
Pryd fyddaf yn derbyn dyddiad ar gyfer fy ngweithred?

Ein blaenoriaeth yw lleihau oedi o ran ein cleifion sy'n derbyn y gweithredoedd y mae arnynt eu hangen mewn amgylchedd diogel. Mae'n bwysig rhannu gwybodaeth gyda ni gan y byddwn yn adolygu ein holl gleifion er mwyn blaenoriaethu'r rheiny sydd â'r angen mwyaf brys. Er na allwn fod yn sicr eto o ran pa bryd y byddwch yn derbyn dyddiad ar gyfer eich gweithred, byddwn yn cysylltu â chi gyda rhagor o wybodaeth wrth i ni ddechrau cynyddu nifer y gwasanaethau y gallwn eu cynnig. Mae angen hefyd i ni sicrhau ein bod yn cadw ein cleifion yn ddiogel wrth i ni barhau i drin achosion COVID-19 tra byddwn yn adfer o'r effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar ein gwasanaethau. Mae ein staff yn gweithio'n galed ac yn gwneud eu gorau glas gan barhau i roi diogelwch cleifion yn gyntaf. 

Hoffem roi sicrwydd i chi ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu, a hynny cyn gyflymed â phosibl, gan roi diogelwch cleifion yn gyntaf. 

Ein prif flaenoriaeth yw lleihau amseroedd aros ac osgoi oedi i'n cleifion, gan gynnal amgylchedd sy'n ddiogel rhag COVID-19. 

29/04/21
Beth alla' i ei wneud tra byddaf yn aros am fy llawdriniaeth?

Os gallwch wella eich iechyd a’ch lefelau gweithgarwch, rydych yn fwy tebygol o ddod dros driniaeth a gweithredoedd yn gynt. Mae'n bwysig i chi gynllunio ar gyfer eich gweithred gan y bydd yn eich helpu i deimlo bod gennych reolaeth ac i gael eich rhyddhau'n gynt fel y gallwch ddychwelyd i'r drefn arferol yn gynt.

29/04/21
Sut fyddaf yn cael fy mhrofi am COVID-19 cyn llawdriniaeth?

Gofynnir i gleifion ynysu am hyd at 3 diwrnod cyn diwrnod eu llawdriniaeth ac i gael prawf COVID-19 72 awr cyn eu gweithred. Mae hyn er mwyn cydymffurfio ag arweiniad llym ar Atal Heintiau i gadw, nid yn unig ein staff, ond hefyd gleifion eraill yn yr ysbyty, mor ddiogel â phosibl.

29/04/21
A oes cleifion â COVID-19 yn yr ysbyty a beth yw'r risg o ddal y firws yno?

Mae gofalu am ein cleifion a'n staff a'u cadw mor ddiogel â phosibl yn ystod y pandemig COVID-19 yn flaenoriaeth.

Pan fyddwch yn dod i'n safleoedd ysbyty, mae gennym fesurau ar waith o ran ymbellhau cymdeithasol, cyfyngiadau ymweld, gwisgo masgiau wyneb sy'n gwrthsefyll hylifau, y byddwn yn eu darparu, a mwy.

Mae gennym leoliadau ar wahân hefyd lle bo cleifion â COVID-19 yn derbyn gofal ar wardiau dynodedig a chânt eu hynysu'n briodol er mwyn cadw'r rheiny sydd â firws COVID-19 ar wahân oddi wrth eraill. Gan fod cyfyngiadau ar ymweld, mae ein hadrannau cleifion allanol, derbynfeydd, coridorau a'n prif dderbynfeydd yn llai prysur ac mae hyn hefyd oherwydd ein bod yn cynnal ymgynghoriadau ac apwyntiadau dros y ffôn neu'n rhithiol.

 Os bydd gennych unrhyw bryderon ynghylch hyn, mae croeso i chi gysylltu â ni.