Yn ystod y pandemig COVID-19, rydym wedi parhau i ddarparu gofal a thriniaethau canser a brys i'n cleifion. Er mwyn i ni allu hwyluso'r gwaith hwn, mae nifer o'n hapwyntiadau a thriniaethau rheolaidd wedi cael eu gohirio neu'n ddarostyngedig i amser aros hirach nag o'r blaen.
Yn unol â sefydliadau eraill y GIG, byddwn yn trefnu triniaethau cleifion yn nhrefn blaenoriaeth glinigol. Os yw eich apwyntiad yn newid, neu newid i'r ffordd mae gwasanaeth yn cael ei darparu, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol, boed drwy lythyr, galwad ffôn neu neges destun ble bo'n briodol, os ydych wedi cytuno neu gofrestru i'r gwasanaeth neges destun.
Gwybodaeth am llawfeddygaeth/triniaeth ddewisol yn un o'n hysbytai.