Mae rhyw 70 y cant o oedolion yng Ngogledd Cymru wedi derbyn o leiaf un dos o'r brechlyn rhag COVID-19 erbyn hyn ac rydym yn parhau i fod ar y trywydd cywir i gynnig brechiadau i weddill y boblogaeth sy'n oedolion cyn carreg filltir Llywodraeth Cymru i wneud hynny erbyn diwedd mis Gorffennaf.
Rydym yn parhau i weithio cyn gyflymed â phosibl gyda'r cyflenwad sydd gennym a hoffwn ddiolch i bawb am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth i ni barhau i wneud cynnydd da ar weithio trwy'r rhaglen gymhleth hon.
Cynnydd o ran brechu o 26 Ebrill 2021:
Canran y bobl mewn Grwpiau Blaenoriaeth sydd wedi derbyn dos cyntaf:
Mae dadansoddiad manwl o Raglen Frechu COVID-19 yng Ngogledd Cymru ar gael ar ein ystadegau brechu.
Pwy rydym yn eu brechu ar hyn o bryd a sut fyddwn yn cysylltu â nhw
Yr wythnos hon, rydym yn parhau i gynnig brechiadau i'r grwpiau canlynol, a chaiff gwahoddiadau eu hanfon trwy lythyr, neges destun a galwad ffôn:
Os bydd gennych unrhyw bryderon ynghylch derbyn brechlyn COVID-19, gofynnwn i chi fynd i'ch apwyntiad yr un fath fel y gallwn gymryd yr amser i drafod y rhain gyda chi cyn i chi benderfynu p'un i barhau gyda'r brechiad ai peidio.
Apwyntiadau ail ddos
Mae'n bwysig bod pobl yn derbyn y ddau ddos o'r brechlyn er mwyn diogelu gymaint â phosibl rhag COVID-19.
Yn unol â chyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), mae bwlch o 11 wythnos ar hyn o bryd rhwng rhoi dosiau cyntaf ac ail ddosiau o'r brechlyn rhag COVID-19.
Gofynnwn i bobl fod yn amyneddgar wrth aros am eu gwahoddiad i gael ail ddos. Fodd bynnag, dylai unrhyw un sydd wedi bod yn aros mwy na 11 wythnos am eu hapwyntiad ail ddos gysylltu â'r canlynol:
Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar gan ffonio dim ond os oes 11 wythnos wedi mynd heibio ers i chi gael eich dos cyntaf ac nad ydych wedi derbyn apwyntiad am eich ail ddos eto.
Cyngor i ferched sy'n feichiog a'r rheiny sy'n bwriadu beichiogi
Gwnaeth y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) ddiweddaru eu cyngor ar 16 Ebrill 2021, gan ddatgan y dylid cynnig y brechlyn rhag COVID-19 i'r holl ferched sy'n feichiog.
Nid oes unrhyw bryderon penodol ynghylch diogelwch wedi'u canfod gyda'r un brand o frechlyn rhag COVID-19 mewn perthynas â beichiogrwydd ac mae dros 90,000 o ferched beichiog yn yr Unol Daleithiau wedi'u brechu'n ddiogel gyda brechlynnau Pfizer-BioNTech a Moderna.
Yn seiliedig ar y data hwn, rydym yn dilyn cyngor JCVI i gynnig brechlyn Pfizer-BioNTech i ferched sy'n feichiog yng Ngogledd Cymru. Nid ydym yn disgwyl derbyn cyflenwadau o frechlyn Moderna tan fis Mehefin.
Mae JCVI yn cynghori ar hyn o bryd, mai'r ffactor risg fwyaf am ganlyniadau difrifol oherwydd COVID-19 yw oedran, a dyna pam mae merched sy'n feichiog yn cael eu gwahodd am frechiad ar sail eu hoedran, oni bai bod ganddynt gyflwr eisoes sy'n golygu eu bod yn perthyn i grŵp sydd mewn perygl (Grŵp Blaenoriaeth 4 neu 6).
Dylai merched barhau i drafod opsiynau brechu rhag COVID-19 yn ystod beichiogrwydd gydag Obstetregydd, Bydwraig neu'r Meddyg Teulu.
Mae JCVI yn cynghori bod merched sy'n bwriadu beichiogi, neu sydd wedi rhoi genedigaeth yn ddiweddar, neu sy'n bwydo ar y fron, yn gallu derbyn unrhyw frechlyn, gan ddibynnu ar eu hoedran a'u grŵp risg glinigol.
Mae brechlynnau rhag COVID wedi'u rhoi i filiynau o ferched ac nid oes unrhyw dystiolaeth bod problemau ffrwythlondeb ynghlwm wrth hyn. Gallwch drafod unrhyw bryderon sydd gennych ynghylch hyn gyda'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Mae rhagor o wybodaeth am frechlynnau rhag COVID-19 a ffrwythlondeb ar gael gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr.
Gofyn i gyflogwyr gefnogi eu staff
Rydym yn annog cyflogwyr ar draws y rhanbarth gydymdeimlo â cheisiadau gan eu staff am amser i ffwrdd i fynychu eu hapwyntiadau brechlyn. Mae brechiad yn darparu'r amddiffyniad gorau rhag bod yn wael iawn gyda COVID-19 a dyma'r trywydd gorau allan o'r pandemig hwn. Bydd hefyd yn helpu i leihau salwch staff.
Amrywiadau o ran cyfraddau brechu rhwng ardaloedd awdurdodau lleol
Yr wythnos hon, rydym wedi derbyn nifer o ymholiadau'n gofyn pam mae canran y bobl rhwng 40 a 49 oed sy'n byw yn Sir y Fflint ac sydd wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn yn is o lawer nag yn unman arall yng Ngogledd Cymru.
Daw'r amrywiadau hyn o ganlyniad i faint poblogaeth carfannau unigol ym mhob ardal awdurdod lleol; y swm a'r math o frechlyn a dderbynnir; a'r angen i gynnig dos cyntaf o frechlyn sy'n wahanol i frechlyn AstraZeneca Rhydychen i'r rheiny o dan 30 oed, yn unol ag arweiniad sy'n deillio o gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA).
Gallwn weld o'r apwyntiadau sydd wedi'u trefnu ar gyfer yr ychydig wythnosau nesaf y bydd yr amrywiadau hyn yn sefydlogi.
Sesiynau Holi ac Ateb am Frechiadau Ar-lein
Ymunwch ag un o'n sesiynau Holi ac Ateb ar-lein ar 5 Mai er mwyn derbyn cyngor arbenigol gan weithwyr iechyd proffesiynol ac i gael atebion i'ch cwestiynau.
Mae croeso i'r rheiny sydd wedi derbyn eu brechlyn i ymuno â ni i rannu eu sylwadau a'u profiad gydag eraill, neu os ydych yn nerfus am y brechlyn a'ch bod am ganfod mwy am y sgil-effeithiau, yna gallwn helpu i ateb a lleddfu'r ofnau hynny.
Gwyddom hefyd fod tystiolaeth o farwoldeb a morbidrwydd anghymesur ymysg pobl dduon, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig, gan gynnwys staff y GIG, sydd wedi dal COVID-19. Mae croeso i'r rheiny o gefndiroedd a chymunedau gwahanol ymuno â ni.
Mae'r digwyddiad hyn yn cael eu cynnal mewn partneriaeth â thîm Cydlyniant Cymunedol Gogledd-ddwyrain a Gogledd-orllewin Cymru a BAWSO, sef sefydliad blaenllaw yng Nghymru sy'n rhoi cymorth i gymunedau lleiafrifoedd ethnig a phobl dduon.
Caiff y sesiwn eu cynnal dros Zoom ddydd Mercher, 5 Mai am 6.30pm-7.30pm.
Ewch yma i gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan yn y sesiynai Holi ac Ateb rhithiol ar y brechlyn rhag COVID-19.
Rhagor o wybodaeth am Raglen Frechu rhag COVID-19 Gogledd Cymru
I gael rhagor o wybodaeth am Raglen Frechu COVID-19 Gogledd Cymru, gweler ein atebion i gwestiynau cyffredin.
Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy am ddiogelwch a chymhwyster brechlynnau ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.