Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd iechyd yn helpu i lansio sesiynau Cwestiwn ac Ateb rhithiol ar y brechlyn COVID-19

23/04/2021

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cymryd rhan mewn dwy sesiwn Cwestiwn ac Ateb ar frechlynnau COVID-19, ble bydd cwestiynau pobl yn cael eu hateb gan arbenigwyr meddygol.

Mae’r digwyddiad o’r enw Cwestiynau Brechlyn COVID-19 mewn partneriaeth â thîm Cydlyniant Cymunedol Gogledd Orllewin a Gogledd Ddwyrain Cymru a BAWSO, sefydliad arweiniol yng Nghymru sy’n cefnogi cymunedau lleiafrifol ethnig du. Fe’u cynhelir dros Zoom ddydd Mercher 28 Ebrill am 2pm-3pm, a dydd Mercher 5 Mai am 6.30pm-7.30pm.

Bydd gweithwyr proffesiynol iechyd o’r bwrdd iechyd ar y sesiynau i drafod y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Frechu COVID-19, ateb cwestiynau a gall y rhai sydd eisoes wedi cael y brechlyn rannu eu profiadau.

Dywedodd y nyrs gymuned Leigh Pusey: “Rydym yn croesawu’r rhai sydd eisoes wedi cael y brechlyn i ymuno â ni yn y sesiwn a rhannu eu barn a’u profiad ag eraill, neu os ydych yn nerfus am y brechlyn ac eisiau gwybod mwy am ei sgil effeithiau, yna gallwn helpu i ateb y pryderon a’u chwalu.

“Gwyddom hefyd bod niferoedd anghymesur o uchel o farwolaeth a morbidrwydd ymhlith pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn cynnwys ein staff y GIG, sydd wedi cael COVID-19. Mae’n hanfodol ein bod yn deall pa grwpiau sydd yn y perygl mwyaf, felly rydym yn croesawu rhai o wahanol gefndiroedd a chymunedau i ymuno â ni fel y gallwn weithredu ar y cyd i’w hamddiffyn.”

Ymunwch â’r cyfarfod Zoom ar 28 Ebrill am 2pm drwy’r ddolen hon https://zoom.us/j/99376574285 - neu ID y cyfarfod: 993 7657 4285 a’r cod: 506511.

Ymunwch â’r cyfarfod Zoom ar 5 Mai am 6.30pm drwy’r ddolen hon https://zoom.us/j/93170846120 neu ID y cyfarfod: 931 7084 6120 a’r cod: 352932.

I gael mwy o wybodaeth am COVID-19 ar gyfer cymunedau lleiafrifoedd ethnig, ewch i’r hysbysfwrdd rhithiol hwn.