Neidio i'r prif gynnwy

Y diweddaraf ar frechlynnau

14/10/22

Rydym bellach wedi cynnig mwy na o 107,000 o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 ar gyfer yr hydref i bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Ngogledd Cymru.

At ei gilydd, mae hyn yn golygu bod mwy na 1.8 miliwn o frechiadau wedi'u cynnig er mwyn helpu i amddiffyn ein cymunedau a bydd y cyfnod diweddaraf yma ar gyfer y pigiad atgyfnerthu'n parhau tan ddechrau mis Rhagfyr.

Caiff yr holl apwyntiadau ar gyfer brechlynnau atgyfnerthu ar gyfer yr hydref eu trefnu yn nhrefn grŵp blaenoriaeth. Bydd unrhyw un sy'n gymwys i dderbyn pigiad atgyfnerthu'n derbyn llythyr yn cynnwys manylion am eu hapwyntiad brechu, a allai gael ei roi yn eu meddygfa neu mewn canolfan frechu. Nid oes angen i bobl gysylltu â'r Bwrdd Iechyd nac â’u meddyg teulu.

Byddem yn annog pobl i gadw at yr apwyntiad a gynigir os yw'n bosibl, ond os bydd angen i unrhyw un ganslo neu aildrefnu apwyntiad, gallant wneud hynny trwy’r Ganolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 ar 03000 840004, sydd ar agor o 8am tan 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 9am tan 2pm dros y penwythnos.