Neidio i'r prif gynnwy

Y diweddaraf ar frechlynnau

Pigiadau Atgyfnerthu'r Hydref 2022

Erbyn hyn, bydd pobl wedi dechrau derbyn llythyrau apwyntiad ar gyfer eu brechiad atgyfnerthu COVID-19 ar gyfer yr hydref, y byddwn yn dechrau ei gynnig o fis Medi.  Unwaith eto, bydd cyflwyno Rhaglen y Pigiad Atgyfnerthu ar gyfer yr Hydref yn arwain at gynnig niferoedd mawr iawn o apwyntiadau bob dydd, felly gofynnir i chi gadw at yr apwyntiad a gynigir lle bo'n bosibl.

Caiff yr holl apwyntiadau eu trefnu trwy wahoddiad felly nid oes angen cysylltu â ni. Gall unrhyw un sydd wedi derbyn gwahoddiad ac sydd ag unrhyw bryderon, ymholiadau neu lle bo angen newid y dyddiad neu'r amser wneud hynny trwy ein Canolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 ar 03000 840004. Mae llinellau ffôn ar agor rhwng 8am a 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9am a 2pm ar benwythnosau.

Dosiau cyntaf ar gyfer plant rhwng 5 a 11 oed

Mae gan rieni plant iach rhwng 5 a 11 oed tan ddydd Mercher, 31 Awst, i drefnu dos cyntaf ar gyfer eu plentyn.

Gellir trefnu apwyntiadau trwy ffonio ein Canolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 ar 03000 840004. Mae llinellau ffôn ar agor rhwng 8am a 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9am a 2pm ar benwythnosau.

Mae'r Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cynghori y dylai plant rhwng 5 a 11 oed gael cynnig y brechlyn er mwyn gwella amddiffyniad yn erbyn tonnau posibl o COVID-19 yn y dyfodol.

Rydym yn annog rhieni a phlant i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth yn ymwneud â pha un ai i dderbyn y brechlyn, yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf gan ffynonellau dibynadwy. Yr wythnos hon, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth ar eu gwefan i ategu hyn.

Grwpiau oedran eraill - dosiau cychwynnol ac atgyfnerthu

Tra ein bod yn parhau i gyflwyno ein rhaglen atgyfnerthu ar gyfer yr hydref, nid yw'n rhy hwyr i unrhyw un lle bo angen dos cychwynnol (cyntaf, ail neu drydydd) neu'r pigiad atgyfnerthu ar gyfer yr Hydref i gael eu brechu.

I drefnu eich brechiad rhag COVID-19, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar 03000 840004 neu ewch i un o'n clinigau galw heibio.