Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ynghylch Brechiadau

Rydym bellach wedi rhoi brechiadau atgyfnethu'r hydref rhag COVID-19 i dros 77% o'r bobl gymwys sy'n byw neu'n gweithio yng Ngogledd Cymru. Mae'r ymdrech hon wedi helpu i amddiffyn ein cymunedau a gwasanaethau'r GIG.

Cynnig agored i gael brechiad COVID-19 yn dod i ben

Bydd y cynnig agored neu ddiamod i holl bobl Gogledd Cymru gael y brechlyn cyntaf neu'r ail neu frechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yn dod i ben ar 31 Mawrth. Wedi'r dyddiad hwn, dim ond carfanau penodol, megis y sawl sy'n 50 mlwydd oen neu'n agored i niwed o safbwynt clinigol, a fydd yn cael eu targedu i gael rhagor o frechiadau, felly sicrhewch na fyddwch yn methu'r cyfle.

Mae clinigau galw heibio yn dal ar gael i alluogi pobl i gael eu brechiadau, a gallwch ganfod rhagor o wybodaeth trwy droi at ein gwefan yma.

Ceisiwch fynychu unrhyw apwyntiad sydd wedi'i drefnu os gallwch chi, ond os bydd yn rhaid i chi ganslo neu aildrefnu apwyntiad, rhowch wybod i ni trwy law y Ganolfan Gyswllt Brechiadau rhag COVID-19 trwy ffonio 03000 840004, oherwydd bydd apwyntiadau a fethir yn effeithio ar ein hadnoddau.

Apêl at Ferched Beichiog

Rydym unwaith eto yn apelio ar ferched beichiog i ddod i gael eu brechlyn rhag COVID-19.  Yn achos unrhyw ddarpar fam, mae cael ei dos cyntaf, ei hail ddos a'i dos atgyfnerthu o'r brechlyn rhag COVID-19 yn un o'r pethau pwysicaf y gallant ei wneud i amddiffyn eu hunain a'u baban yn y groth rhag COVID-19.

Os ydych chi'n feichiog, fe wnaiff y brechlyn rhag COVID-19 eich amddiffyn chi ac amddiffyn eich baban rhag niwed osgoadwy a gallwch gael eich brechu unrhyw bryd yn ystod y beichiogrwydd. Gallwch ffonio'r ganolfan gyswllt i neilltuo apwyntiad neu fynd i glinig galw heibio.

Clinigiau i frechu plant dwy a thair oed rhag y ffliw

Bydd clinigiau i frechu plant dwy a thair oed rhag y ffliw â chwistrell yn y trwyn yn cael eu cynnal yn ein canolfannau brechu ar 20fed a 28ain Chwefror. Gellir trefnu apwyntiadau trwy ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 03000 840004.