Bydd ein clinigau brechu'n parhau i gynnig apwyntiadau ar gyfer pobl gymwys sy'n byw neu'n gweithio yng Ngogledd Cymru dros gyfnod y Nadolig.
Mae'r holl safleoedd bellach wedi dechrau cynnig clinigau galw heibio i bobl sy'n gymwys ac nad ydynt wedi derbyn y cynnig i gael pigiad atgyfnerthu COVID-19 eto. Mae manylion am ble a pha bryd y bydd clinigau ar gael yma .
Yn achlysurol, efallai y bydd ein clinigau'n cau oherwydd tywydd garw neu argaeledd staff, felly i unrhyw un sydd ag apwyntiad neu sy'n bwriadu mynd i glinig galw heibio, edrychwch ar ein gwefan yn gyntaf. Byddwn yn diweddaru'r wybodaeth cyn gynted ag y byddwn yn ymwybodol o unrhyw newidiadau.
Ewch i'r apwyntiad wedi'i drefnu a gynigir i chi os yw'n bosibl, ond os bydd angen i chi ganslo neu aildrefnu apwyntiad, rhowch wybod i ni trwy'r Ganolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 drwy ffonio 03000 840004 gan fod colli apwyntiadau'n gallu cael effaith ar ein hadnoddau.
Unwaith eto, rydym yn apelio ar ferched beichiog i ddod atom i dderbyn eu brechlyn rhag COVID-19. I unrhyw ddarpar fam, mae derbyn eu dos cyntaf, ail ddos a'u dos atgyfnerthu o'r brechlyn COVID-19 yn un o'r pethau pwysicaf y gallant ei wneud i amddiffyn eu hunain a'u baban heb ei eni rhag COVID-19.
Os ydych yn feichiog, bydd y brechlyn COVID-19 yn helpu i'ch amddiffyn chi a'ch baban rhag niwed y gellid ei osgoi a gellir ei roi ar unrhyw adeg yn ystod beichiogrwydd. Gallwch ffonio'r ganolfan gyswllt i drefnu apwyntiad neu gallwch fynd i glinig galw heibio.
Diolch i bawb am aros yn amyneddgar tra'r oeddem yn brechu'r rhai a oedd fwyaf agored i niwed. Rydym bellach yn apelio ar yr holl bobl gymwys i ddod atom i dderbyn eu brechlyn rhag COVID-19. Brechiadau yw ein harf pwysicaf yn erbyn y feirysau hyn a bydd sicrhau eich bod yn amddiffyn eich hun y gaeaf hwn nid yn unig am amddiffyn y cyhoedd ond hefyd yn helpu'r bwrdd iechyd dros fisoedd y gaeaf.