Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Brechu

Erbyn hyn mae bron i ddwy filiwn o bigiadau COVID-19 wedi’u dosbarthu i bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Ngogledd Cymru ers i’r ymgyrchoedd brechu ddechrau.

Mae’r ymdrech enfawr hon, lle mae tua tair miliwn o apwyntiadau wedi cael eu cynnig ers mis Rhagfyr 2020, wedi bod yn help i amddiffyn ein cymunedau a gwasanaeth y GIG yn ystod cyfnod heriol iawn.

Yn ystod cyfnod atgyfnerthu diweddaraf yr ymgyrch yma, mae tua 457,000 o apwyntiadau wedi’u cynnig i’r 358,000 o bobl sy’n gymwys gyda mwy na 240,000 o frechiadau wedi’u rhoi, gan amddiffyn ymhellach mwy na 68 y cant o’r rhai sy’n gymwys.

Mae yna bobl sy’n gymwys i gael brechiad sydd heb dderbyn y cynnig hyd yma, yn ogystal â grŵp bach o bobl fydd yn derbyn gwahoddiad cyn bo hir, ac rydym yn eu hannog i gyd i gael eu pigiad atgyfnerthu cyn gynted â phosibl.

Os yn bosibl, ewch i’r apwyntiad a gynigir i chi, ond os oes angen i chi ganslo neu aildrefnu apwyntiad, rhowch wybod i ni drwy’r Ganolfan Gyswllt Brechu COVID-19 drwy ffonio 03000 840004 gan fod apwyntiadau a gollwyd yn effeithio ar ein hadnoddau.

Clinigau Galw Heibio

Mae pob safle erbyn hyn yn cynnig clinigau galw heibio i bobl sy'n gymwys ond sydd heb dderbyn eu cynnig am atgyfnerthiad COVID-19 hyd yma. Mae manylion ynghylch ble a phryd y bydd y clinigau yma ar gael ar ein gwefan yma.

Apêl i Fenywod Beichiog

Rydym yn apelio unwaith eto ar fenywod beichiog i ddod ymlaen am eu brechlyn COVID-19. Mae cael y dôs cyntaf, yr ail ddôs a dôs atgyfnerthu'r brechlyn COVID-19 yn un o'r pethau pwysicaf y gall mam feichiog ei wneud i amddiffyn ei hunan a'i babi yn y groth rhag COVID-19.

Os ydych chi'n feichiog, bydd y brechlyn COVID-19 yn help i'ch amddiffyn chi a'ch babi rhag niwed y gellir ei osgoi a gellir ei dderbyn ar unrhyw adeg yn ystod beichiogrwydd. Gallwch ffonio'r ganolfan gyswllt i drefnu apwyntiad neu fynychu clinig galw heibio.

Apêl i rai dros 50 oed

Diolch i bawb am fod yn amyneddgar wrth i ni frechu'r rhai mwyaf bregus. Rydym nawr yn apelio ar bob person cymwys i ddod ymlaen i dderbyn eu brechlyn COVID-19. Brechiadau yw ein harf cryfaf yn erbyn y firysau yma ac mae sicrhau eich bod chi yn cael eich amddiffyn y gaeaf hwn hefyd yn amddiffyn y cyhoedd ac yn helpu’r Bwrdd Iechyd yn ystod misoedd y gaeaf.