Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Brechu – Medi 6 2023

Mae ein cynlluniau i gynnig brechlynnau atgyfnerthu rhag COVID-19 yr hydref a brechlynnau ffliw i fwy na 300,000 o bobl gymwys yng Ngogledd Cymru, gyda chefnogaeth ein cydweithwyr a phartneriaid mewn gofal sylfaenol a fferyllfeydd cymunedol yn cael eu trefnu ar hyn o bryd.

Disgwyliwn i'r brechlynnau cyntaf gael eu cynnig i'r rhai mwyaf agored i niwed o 11 Medi ymlaen.

Mae adroddiadau am amrywolion COVID-19 newydd, a chynnydd mewn derbyniadau ysbytai yng Nghymru o ganlyniad i heintiau COVID-19 yn yr wythnosau diwethaf yn destun pryder i ni. Mae hyn yn awgrymu bod cynnydd ehangach o ran trosglwyddo'r firws yn digwydd yn y gymuned. Rydym hefyd yn pryderu am adroddiadau am ffliw difrifol sydd wedi ymledu yn Awstralia, a ystyrir yn aml yn ddangosydd o sut y gallai’r firws effeithio ar y DU yn ystod y gaeaf.

Mae’r bwrdd iechyd yn annog pawb cymwys i gael brechlynnau atgyfnerthu rhag COVID-19 yr hydref a brechlynnau ffliw am ddim er mwyn eu hamddiffyn y gaeaf hwn. Y ffordd orau i amddiffyn eich hun rhag y firysau hyn yw derbyn eich gwahoddiad i gael brechlyn ffliw a brechlynnau atgyfnerthu rhag COVID-19 yr hydref.

Ceir manylion llawn y grwpiau cymwys ar gyfer brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yr hydref a brechlynnau ffliw rhad ac am ddim, fel yr argymhellir gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a Phrif Swyddog Meddygol Cymru, ar ein gwefan. Efallai y cewch gynnig brechiadau atgyfnerthu rhag COVID-19 yr hydref a’r brechlyn ffliw ar yr un pryd, lle bo hynny’n bosibl. Yn y rhan fwyaf o achosion, am resymau dosbarthu ymarferol, byddwch yn cael eich gwahodd i dderbyn y brechlynnau mewn dau apwyntiad ar wahân.

 

COVID-19

O 11 Medi ymlaen, bydd ein timau brechu COVID-19 yn blaenoriaethu pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal, ac yna pobl sy'n gaeth i'r tŷ. Byddwn yn symud ymlaen wedyn at grwpiau cymwys eraill, gan ddechrau gyda'r rhai sydd â'r risg glinigol uchaf. Er mwyn helpu i amddiffyn y staff rheng flaen sy'n darparu gwasanaethau iechyd a gofal hanfodol, byddwn hefyd yn dechrau brechu nifer o staff y GIG a gofal cymdeithasol yn gynnar yn ein rhaglen frechu.

Byddwn yn cysylltu â phawb sy’n gymwys i gael brechiad atgyfnerthu’r hydref gydag apwyntiad pan ddaw eu tro nhw yn yr un modd ag ymgyrchoedd brechu COVID-19 blaenorol. Cynhelir apwyntiadau mewn canolfan frechu gymunedol neu feddygfa yn eich ardal chi. Bydd manylion llawn, gan gynnwys dyddiad, amser a lleoliad eich apwyntiad, wedi'u cynnwys yn eich llythyr.

Arhoswch i dderbyn gwahoddiad ar gyfer eich apwyntiad brechu. Nid oes angen cysylltu â ni. Bydd ein rhaglen pigiadau atgyfnerthu rhag COVID-19 yr hydref yn golygu bod nifer fawr iawn o apwyntiadau’n cael eu trefnu bob dydd, felly cadwch yr apwyntiad a gynigir i chi lle bo modd. Gall unrhyw un sydd wedi derbyn gwahoddiad ac sydd ag unrhyw bryderon, ymholiadau neu angen newid y dyddiad neu'r amser wneud hynny trwy gysylltu â’n Canolfan Cyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840 004. Mae’r llinellau ffôn ar agor 8am-6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 9am-2pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.

 

Ffliw

Os ydych chi neu'ch anwyliaid yn gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim, bydd eich meddygfa fel arfer yn cysylltu â chi i gynnig apwyntiad mewn clinig brechu rhag y ffliw. Efallai y cewch eich gwahodd trwy lythyr, neges destun, galwad ffôn, neu wyneb yn wyneb pan fyddwch yn eich meddygfa am apwyntiad arall. Gall meddygfeydd hefyd ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol neu lwyfannau cyfathrebu eraill i hysbysebu clinigau brechu rhag y ffliw. Mae meddygfeydd fel arfer yn gwahodd y cleifion mwyaf agored i niwed i gael eu brechlyn ffliw yn gyntaf.

Efallai y bydd rhai cleifion yn cael eu gwahodd i fynychu canolfan frechu gymunedol leol ar gyfer eu brechiad ffliw. Cysylltir yn uniongyrchol â'r cleifion hyn gyda manylion eu hapwyntiad gan gynnwys dyddiad, amser a lleoliad.

Mae mwy na 100 o fferyllfeydd cymunedol yng Ngogledd Cymru hefyd yn cynnig brechlynnau ffliw am ddim i grwpiau cymwys. Cysylltwch â'ch fferyllfa gymunedol leol i gael gwybod sut i gael eich brechlyn ffliw, neu edrychwch ar yr hysbysiadau sydd yn eu siopau. Efallai y bydd angen i chi wneud apwyntiad.

Fel arall, efallai bod eich cyflogwr wedi gwneud trefniadau i chi gael eich brechlyn ffliw yn y gwaith.