Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Brechu – Medi 28 2023

Rydym yn gwneud cynnydd cynnar da yn ein cynlluniau i ddarparu brechlynnau atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref i’r bobl fwyaf agored i niwed yng Ngogledd Cymru.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae ein timau brechu wedi ymweld â dwsinau o gartrefi gofal ledled y rhanbarth i gynnig y brechlyn atgyfnerthu i breswylwyr. Rydym hefyd wedi ymweld â llawer o’n preswylwyr sy’n gaeth i’r tŷ.

Wrth i ni barhau i frechu pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal a phobl sy’n gaeth i’r tŷ, rydym hefyd yn gwneud cynlluniau i gynnig y brechlyn atgyfnerthu i gleifion cymwys eraill.

 

Eich apwyntiad

Disgwyliwn y bydd y llythyrau cyntaf yn gwahodd pobl gymwys i fynychu apwyntiadau pigiadau atgyfnerthu rhag COVID-19 yr hydref ym mlychau post yng Ngwynedd ac Ynys Môn yr wythnos hon.

Mae gan ardaloedd eraill yng Ngogledd Cymru fwy o gartrefi gofal, a bydd angen mwy o amser ar ein timau i frechu preswylwyr cartrefi gofal yn yr ardaloedd hyn cyn symud ymlaen at gleifion cymwys eraill. Mae'r llythyrau cyntaf yn gwahodd pobl i fynychu apwyntiadau yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam yn debygol o gael eu postio ymhen pythefnos i dair wythnos.

 

Eich llythyr apwyntiad

Arhoswch i dderbyn gwahoddiad ar gyfer eich apwyntiad brechu. Nid oes angen i chi gysylltu â ni.  Bydd pobl sy’n gymwys ar gyfer pigiad atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref yn cael eu gwahodd yn eu tro yn ddibynnol ar eu risg glinigol, yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.

Bydd apwyntiadau'n cael eu cynnal mewn canolfan frechu gymunedol neu feddygfa yn eich ardal chi. Bydd manylion llawn, gan gynnwys dyddiad, amser a lleoliad eich apwyntiad, wedi'u cynnwys yn eich llythyr.

Bydd nifer fawr iawn o apwyntiadau'n cael eu darparu bob dydd, felly mynychwch yr apwyntiad a gynigir i chi lle bo modd. Os bydd angen i chi newid eich apwyntiad bydd rhagor o fanylion am sut i wneud hynny yng nghynnwys eich llythyr.

 

Eich pigiad atgyfnerthu COVID-19 yr hydref a'ch brechlyn ffliw

Lle bo modd, efallai y cewch gynnig eich brechlynnau ffliw a phigiad atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref ar yr un pryd. Mae'n ddiogel ac yn effeithiol i chi gael y ddau frechlyn ar yr un pryd. Yn y rhan fwyaf o achosion, am resymau ymarferol byddwch yn cael eich gwahodd i dderbyn y brechlynnau mewn dau apwyntiad ar wahân.

Rydym yn parhau i bryderu am y potensial ar gyfer ton newydd o achosion COVID-19 ac adroddiadau am dymor ffliw difrifol yn Awstralia. Cofiwch amddiffyn eich hun y gaeaf hwn - derbyniwch eich gwahoddiad i gael eich pigiad atgyfnerthu COVID-19 yr Hydref a’ch brechlyn ffliw cyn gynted â phosibl.