Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Brechu – Hydref 18 2023

Diweddariad: Hydref 20, 12 hanner dydd

O ganlyniad i law trwm rydym yn cau rhai o’n canolfannau brechu sy’n rhoi pigiadau atgyfnerthu rhag COVID-19 tymor yr Hydref er mwyn amddiffyn diogelwch a lles ein cleifion a’n staff

 

Canolfan Catrin Finch, Wrecsam

Bydd ein clinig yng Nghanolfan Catrin Finch yn Wrecsam yn cau am 3pm ddydd Gwener 20 Hydref. Bydd hefyd wedi cau ddydd Sadwrn 21 Hydref. 

Bydd pob claf sydd ag apwyntiad o 2.30pm ymlaen ddydd Gwener 20 Hydref neu ddydd Sadwrn 21 Hydref yn cael neges destun neu alwad ffôn ac yn cael eu gwahodd i aildrefnu amser a dyddiad. 

 

Canolfan Gymunedol Eirianfa, Dinbych

Bydd ein clinig yng Nghanolfan Gymunedol Eirianfa yn Ddinbych yn cau am 1pm, ddydd Gwener 20 Hydref.

Bydd pob claf sydd ag apwyntiad am 1pm neu ar ôl hynny yn cael neges destun neu alwad ffôn ac yn cael eu gwahodd i aildrefnu amser a dyddiad.

 

Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Ewloe

Bydd ein clinig yng Nghlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Ewloe yn cau am 3pm, ddydd Gwener 20 Hydref.

Bydd pob claf sydd ag apwyntiad am 2.30pm neu ar ôl hynny yn cael neges destun neu alwad ffôn ac yn cael eu gwahodd i aildrefnu amser a dyddiad.

 

Canolfan Gymunedol y Jiwbilî, Prestatyn 

Bydd ein clinig yng Nghanolfan Gymunedol y Jiwbilî ym Mhrestatyn yn cau am 2.30pm, ddydd Gwener 20 Hydref.

Bydd pob claf sydd ag apwyntiad am 2.30pm neu ar ôl hynny yn cael neges destun neu alwad ffôn ac yn cael eu gwahodd i aildrefnu amser a dyddiad.

 

 

Clinig brechu arall

Ar hyn o bryd, bydd pob clinig brechu arall yn parhau i weithredu yn ôl yr arfer. Ewch i'ch apwyntiad os gallwch. Bydd diweddariadau pellach yn cael eu rhoi ar y dudalen hon cyn gynted ag y byddant ar gael.

Mae ein staff yn y ganolfan gyswllt yn gweithio'n galed i ymateb i alwadau gan y cyhoedd. Efallai y bydd yn cymryd ychydig yn hirach nag arfer i ateb eich galwad. Os ydych yn ffonio ein canolfan gyswllt, byddwch yn amyneddgar. 

 


Ein diweddariad o Hydref 18

Gyda rhagolygon y tywydd yn addo glaw trwm a gwyntoedd cryfion yn ddiweddarach yr wythnos hon, rydyn ni’n cynghori pawb sy’n mynychu apwyntiadau brechlynnau atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref i gyrraedd ar amser ac i wisgo’n briodol ar gyfer y tywydd.

 

Peidiwch â chyrraedd yn gynnar

Rydym yn ceisio peidio gwneud i chi ddisgwyl yn hir ein canolfannau brechu, ond efallai y bydd rhai cleifion yn aros am gyfnod byr cyn cael eu gweld, ar adegau prysur.

Helpwch ni drwy fynychu ar yr amser a bennwyd a chyrhaeddwch mewn pryd ar gyfer eich apwyntiad. Peidiwch â chyrraedd yn gynnar, os gwelwch yn dda, oherwydd gall hyn gynyddu’r ciwio ar ein safleoedd ac oedi apwyntiadau i eraill.

Os nad yw'n bosibl i chi ddod i'ch apwyntiad, gallwch aildrefnu trwy ddilyn y cyfarwyddiadau yn eich llythyr.

 

Eich apwyntiad

Rydym yn dosbarthu miloedd o frechlynnau atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref bob dydd ar hyn o bryd, mewn lleoliadau ar draws Gogledd Cymru, ac yn disgwyl anfon miloedd yn rhagor o wahoddiadau drwy’r post dros yr wythnosau nesaf.

Rydym yn anfon apwyntiadau at bobl sy'n gymwys i gael y brechlyn yn ôl trefn eu hangen clinigol, yn unol â chyngor y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.

Os ydych yn gymwys i gael atgyfnerthiad brechlyn rhag COVID-19 yr Hydref ond heb dderbyn eich apwyntiad eto, byddwch yn amyneddgar. Nid oes angen cysylltu â ni.

Efallai bydd eich apwyntiad yn digwydd mewn canolfan frechu gymunedol ger eich cartref neu yn eich meddygfa. Bydd eich llythyr yn cynnwys y manylion sydd eu hangen arnoch, gan gynnwys dyddiad, amser a lleoliad yr apwyntiad.

 

Gwiriwch pa mor gymwys ydych chi i dderbyn eich brechlyn atgyfnerthu COVID-19 tymor yr Hydref ac eich pigiad ffliw 

Gallwch wirio a ydych yn gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref a’r brechlyn rhag ffliw yma.

Lle bo hynny’n bosibl, efallai y cynigir eich brechiadau atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref a’r ffliw i chi ar yr un pryd. Mae'n ddiogel ac yn effeithiol i chi gael y ddau frechlyn ar yr un pryd. Am resymau ymarferol, yn y rhan fwyaf o achosion, byddwch yn cael eich gwahodd i dderbyn y brechlynnau mewn dau apwyntiad ar wahân.

Cofiwch amddiffyn eich hun y gaeaf hwn – gwnewch yn siŵr eich bod yn derbyn eich gwahoddiad i gael brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref a’ch brechlyn rhag ffliw, cyn gynted â phosibl.