Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Brechu – Hydref 12 2023

Mae mwy na 100,000 o’r bobl fwyaf agored i niwed yng Ngogledd Cymru bellach wedi’u gwahodd i dderbyn eu brechlyn atgyfnerthu COVID-19 tymor yr Hydref.

Bydd miloedd yn fwy o lythyrau apwyntiad yn cael eu hanfon i bobl cymwys ledled Gogledd Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf wrth i'n hymgyrch barhau.

Erbyn diwedd yr wythnos hon, bydd ein timau brechu wedi ymweld â phob cartref gofal yn ein hardal i gynnig amddiffyniad ychwanegol i breswylwyr rhag COVID-19.

Bydd cwblhau'r cam cyntaf hwn o'r ymgyrch gyda'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau yn galluogi ein timau brechu i ganolbwyntio ar wahodd mwy o gleifion i'n rhwydwaith o ganolfannau brechu lleol.

Mae ein timau hefyd yn parhau i gysylltu â chleifion sy’n gaeth i’r tŷ er mwyn iddynt dderbyn eu brechlyn atgyfnerthu COVID-19 tymor yr Hydref.

Hyd yma, rydym wedi rhoi mwy na 33,000 dos o’r brechlyn atgyfnerthu COVID-19 tymor yr Hydref.   

 

Arhoswch i dderbyn eich apwyntiad 

Os ydych yn gymwys am frechlyn atgyfnerthu COVID-19 tymor yr Hydref, ond nad ydych wedi derbyn eich apwyntiad eto, byddwch yn amyneddgar. 

Byddwn yn ysgrifennu atoch gyda manylion am eich apwyntiad. Rydym yn anfon apwyntiadau at bobl sy'n gymwys i dderbyn y brechlyn yn nhrefn eu hanghenion clinigol, yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.

Arhoswch i dderbyn gwahoddiad ar gyfer eich apwyntiad brechu. Does dim angen i chi gysylltu ȃ ni. 

Mae’n bosibl bydd eich apwyntiad yn cael ei gynnal mewn canolfan frechu gymunedol dafliad carreg o’ch cartref, neu ym meddygfa eich Meddyg Teulu. Bydd eich llythyr yn cynnwys yr holl fanylion fydd eu hangen arnoch, gan gynnwys y dyddiad, yr amser a’r lleoliad. 

 

Diolch am fynychu eich apwyntiad 

Hoffem ddiolch i gleifion ar draws Gogledd Cymru am fynychu eu hapwyntiadau ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu COVID-19 tymor yr Hydref mewn niferoedd mor uchel.

Fel mewn ymgyrchoedd yn y gorffennol, mae ein tîm yn gweithio'n galed i ddarparu nifer fawr iawn o apwyntiadau brechu bob dydd. Helpwch ni trwy fynychu eich slot sydd wedi’i drefnu ar eich cyfer.  

Os na allwch fynychu eich apwyntiad, gallwch aildrefnu drwy ddilyn y cyfarwyddiadau sydd wedi’u nodi ar eich llythyr. 

 

Gwiriwch pa mor gymwys ydych chi i dderbyn eich brechlyn atgyfnerthu COVID-19 tymor yr Hydref ac eich pigiad ffliw 

Gallwch wirio os ydych yn gymwys i dderbyn eich brechlyn atgyfnerthu COVID-19 tymor yr Hydref a’r pigiad ffliw yma.

Lle bo modd, mae’n bosibl y cewch gynnig i dderbyn eich brechiadau atgyfnerthu COVID-19 tymor yr Hydref a’r ffliw ar yr un pryd. Mae'n ddiogel ac yn effeithiol i chi dderbyn y ddau frechlyn ar yr un adeg. Ond, yn amlach na pheidio, am resymau ymarferol byddwch yn cael eich gwahodd i dderbyn y brechlynnau mewn dau apwyntiad ar wahân.

Rydym yn parhau i bryderu am y nifer cynyddol o achosion COVID-19 mewn ysbytai, yn ogystal ag adroddiadau o dymor y ffliw difrifol yn Awstralia. Cofiwch amddiffyn eich hun y gaeaf hwn – gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio ar eich gwahoddiad i dderbyn eich brechlyn atgyfnerthu COVID-19 tymor yr Hydref a’ch brechlyn ffliw cyn gynted â phosibl.