Rydym bellach wedi darparu brechiadau atgyfnerthu COVID-19 yr hydref i tua 80% o’r bobl gymwys hynny sy’n byw neu’n gweithio yng Ngogledd Cymru. Mae’r ymdrech hon wedi helpu i amddiffyn ein cymunedau a gwasanaethau’r GIG.
Gall pobl gael eu brechiadau mewn clinigau galw heibio mewn nifer o wahanol safleoedd ar draws Gogledd Cymru ac mae mwy o wybodaeth ar gael ar ein gwefan yma.
Rhoddir blaenoriaeth i’r rhai sy’n mynychu apwyntiad wedi’i drefnu a gellir trefnu apwyntiadau neu eu haildrefnu o hyd drwy’r Ganolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 ar 03000 840004, sydd ar agor rhwng 8am a 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 9am i 2pm ar y penwythnos.
Mynychwch yr apwyntiad a drefnwyd a gynigir os yn bosibl, ond os oes angen i chi ganslo neu aildrefnu apwyntiad, rhowch wybod i ni drwy’r Ganolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 gan fod apwyntiadau a gollwyd yn effeithio ar ein hadnoddau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd rhaglen frechu atgyfnerthu COVID-19 yn y gwanwyn yn dechrau ar 1 Ebrill ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed, gan gynnwys pobl dros 75 oed.
Yn dilyn cyngor gan y Cydbwyllgor arbenigol ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI), bydd y brechlyn yn cael ei gynnig i:
• pobl 75 oed a throsodd
• preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn
• unigolion pum mlwydd oed a throsodd sydd â system imiwnedd wan
Bydd y rhai sy'n gymwys yn cael eu gwahodd trwy lythyr fel mewn ymgyrchoedd blaenorol a byddwn yn gofyn i bobl aros am eu hapwyntiad yn hytrach na ffonio i drefnu. Bydd y ddarpariaeth yn canolbwyntio ar gartrefi gofal a dinasyddion sy'n gaeth i'r tŷ yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf, gan symud wedyn i bobl dros 75 oed symudol a phobl sydd â system imiwnedd wan.
Yn ogystal â rhaglen brechiadau atgyfnerthu'r gwanwyn, bydd rhaglen brechiadau atgyfnerthu'r hydref yn ddiweddarach eleni, yn dilyn cyngor pellach gan y JCVI.