Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Brechu - 4 Mai 2023

Ymgyrch atgyfnerthu'r gwanwyn

Mae’r cam diweddaraf yn ein hymgyrch brechu COVID-19 yn canolbwyntio ar y rhai yn ein cymunedau sydd fwyaf agored i niwed. Mae hyn yn cynnwys preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn, pobl 75 oed a hŷn, a’r rhai pum mlwydd oed a hŷn sydd ag imiwnedd isel. 

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae ein timau brechu wedi bod yn brysur yn cynnig brechlyn atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn i breswylwyr mewn cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn, a'r rhai sy’n hŷn na 75 oed ac yn gaeth i'r tŷ.

Nawr, byddwn yn dechrau gwahodd pobl gymwys eraill i gael eu brechiadau. Byddwn yn gwneud hyn drwy lythyr drwy’r post. Nid oes angen i unrhyw un gysylltu â’r Bwrdd Iechyd na’u meddyg teulu.

Ceisiwch fynychu'r apwyntiad sydd wedi'i drefnu os yw'n bosibl. Ond os oes rhaid i chi ganslo neu aildrefnu’r apwyntiad, rhowch wybod i ni drwy’r Ganolfan Gyswllt Brechu COVID-19 gan fod methu apwyntiadau yn effeithio ar ein hadnoddau.

Gallwch gysylltu â'r Ganolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840004, sydd ar agor rhwng 8am a 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9am a 2pm ar y penwythnos.

Brechiadau i blant rhwng 6 mis a 4 oed

Mae plant rhwng 6 mis a 4 oed yn gymwys i gael cwrs sylfaenol o ddau ddos o frechiad COVID-19 os ystyrir eu bod yn y categori “mewn perygl”.

Bydd y Bwrdd Iechyd yn dechrau cysylltu’n uniongyrchol â rhieni neu warcheidwaid y plant sy’n gymwys ar gyfer y cynnig hwn o fewn y pythefnos nesaf i ddechrau archebu lle mewn clinigau a fydd yn rhedeg o ddiwedd mis Mai.