Diweddariad Brechu – 25 Ebrill 2023
Mae amser yn mynd yn brin i unrhyw un nad yw eto wedi cael eu cwrs sylfaenol o frechiadau COVID-19, a allai effeithio ar eu cynlluniau teithio i rai gwledydd yr haf hwn.
Mae’n bosibl i’r bobl hynny nad ydynt eto wedi cwblhau’r cwrs sylfaenol o frechiadau (dau ddos, neu dri ar gyfer y rhai mewn carfannau clinigol penodol) barhau i drefnu apwyntiadau cyn diwedd mis Mehefin. Gan fod angen isafswm o wyth wythnos rhwng dosau i gwblhau cwrs llawn, bydd angen rhoi unrhyw ddos olaf ond un erbyn 5 Mai 2023.
Rydym yn annog y bobl hynny nad ydynt eto wedi cwblhau’r cwrs sylfaenol, i wneud hynny cyn gynted â phosibl fel nad ydynt yn colli cyfle. Yn ogystal â pharhau i amddiffyn ein cymunedau, mae angen cofnod brechu cyflawn o hyd ar gyfer teithio i lawer o wledydd ar draws y byd, megis UDA. Mae'r UE hefyd wedi datgan y gallai gofynion brechu gael eu hailgyflwyno pe bai cyfraddau heintiau yn cynyddu yn y dyfodol.
Ar hyn o bryd nid yw’r brechlyn COVID-19 ar gael fel brechiad teithio arferol yn y DU y tu allan i’r rhaglen frechu swyddogol.
Gellir trefnu neu aildrefnu apwyntiadau drwy’r Ganolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840004, sydd ar agor rhwng 8am a 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9am a 2pm ar y penwythnos.
Ceisiwch fynychu unrhyw apwyntiad sydd wedi'i drefnu. Ond, os oes rhaid i chi ganslo neu aildrefnu apwyntiad, rhowch wybod i ni drwy’r Ganolfan Gyswllt Brechu COVID-19 gan fod methu apwyntiadau yn effeithio ar ein hadnoddau.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan yma.
Rydym bellach wedi dechrau cyflwyno ymgyrch pigiadau atgyfnerthu'r Gwanwyn. Mae hyn ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed, gan gynnwys pobl dros 75 oed.
Yn dilyn cyngor arbenigol gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), byddwn yn cynnig y brechlyn i’r canlynol:
Bydd y rhai sy'n gymwys yn cael eu gwahodd trwy lythyr fel yn yr ymgyrchoedd blaenorol ac rydym yn gofyn i bobl aros am y llythyr yn hytrach na ffonio i drefnu apwyntiad. Yn ystod yr wythnosau cyntaf, bydd y ddarpariaeth yn canolbwyntio ar gartrefi gofal a phobl sy'n gaeth i'r tŷ, ac yna ar bobl dros 75 oed sy’n gallu symud, a phobl sydd â system imiwnedd wan.
Mae plant rhwng 6 mis a 4 oed yn gymwys i gael cwrs sylfaenol dau ddos o frechiad COVID-19 os ystyrir eu bod yn y categori “agored i niwed”.
Bydd y Bwrdd Iechyd yn cysylltu’n uniongyrchol â rhieni neu warcheidwaid y plant sy’n gymwys ar gyfer y cynnig hwn.