Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Brechu - 23 Mai 2023

Ymgyrch y pigiad atgyfnerthu ar gyfer y gwanwyn

Rydym bellach wedi cynnig brechiad atgyfnerthu ar gyfer y gwanwyn i fwy na 90 y cant o'r rhai sy'n gymwys a hyd yma, rydym wedi gweld ymateb cadarnhaol i'r gwahoddiadau.

Caiff y gwahoddiadau eraill eu hanfon o fewn y pythefnos nesaf trwy'r post, felly nid oes angen i unrhyw un gysylltu â'r Bwrdd Iechyd na'u meddyg teulu.

Mae cyfnod diweddaraf ein hymgyrch frechu rhag COVID-19 wedi'i anelu at y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, gan gynnwys preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn, pobl sy'n 75 oed ac yn hŷn a'r rhai sy'n bum mlwydd oed ac yn hŷn sydd â system imiwnedd wan. 

Er ein bod yn symud oddi wrth ymateb brys i'r pandemig, mae'n dal i fod yn bwysig bod y bobl hynny sydd â risg uwch o fynd yn sâl yn derbyn eu brechlyn. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod ansicrwydd yn dal i fod ynghylch sut bydd y firws yn newid yn y dyfodol.

Er mwyn ei gwneud mor hawdd â phosibl i fynd i apwyntiad, mae ein timau wedi bod yn cynnal clinigau mewn nifer o leoliadau cymunedol. Er enghraifft, bydd tîm Ardal y Canol yn cynnal clinigau yr wythnos hon yng Nghastell Rhuthun a'r Neuadd Goffa ym Metws-y-Coed. Mae sesiynau wedi cael eu cynnal hefyd yng Nghanolfan Addysg Uwchaled yng Ngherrigydrudion, Neuadd y Dref yn Abergele, y Ganolfan Gymunedol ym Modelwyddan, Canolfan Jiwbilî ym Mhrestatyn, Canolfan Glasdir yn Llanrwst, Hwb Dinbych, Llyfrgell Gymunedol Penmaenmawr a Chlinig y West End ym Mae Colwyn.

Mae brechlynnau ac imiwneiddio'n llwyddiant o ran iechyd a datblygiad yn fyd-eang, gan achub miliynau o fywydau bob blwyddyn ac mae darparu gwasanaethau'n lleol yn gwella cyfraddau brechu ac yn helpu i amddiffyn ein cymunedau.

Ewch i'r apwyntiad sydd wedi'i drefnu i chi os yw'n bosibl, ond os bydd angen i chi ganslo neu aildrefnu apwyntiad, rhowch wybod i ni trwy'r Ganolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 gan fod colli apwyntiadau'n cael effaith ar ein hadnoddau.

Gellir cysylltu â'r Ganolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 ar 03000 840004, sydd ar agor o 8am tan 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 9am tan 2pm dros y penwythnos.

Brechiadau i blant sydd rhwng 6 mis a phedair blwydd oed

Mae plant sydd rhwng 6 mis a phedair blwydd oed yn gymwys i dderbyn cwrs cychwynnol dau ddos o'r brechiad rhag COVID-19 os ystyrir eu bod yn y categori "mewn perygl".

Bydd y Bwrdd Iechyd yn dechrau cysylltu â rhieni neu warcheidwaid y plant sy'n gymwys ar gyfer y cynnig hwn yn uniongyrchol o fewn y pythefnos nesaf i ddechrau trefnu apwyntiadau mewn clinigau a gaiff eu cynnal o ddiwedd mis Mai.