Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Brechu – 20 Gorffennaf 2023

Diwedd ymgyrch brechiad atgyfnerthu’r gwanwyn

Mae ein rhaglen brechiad atgyfnerthu’r gwanwyn ar gyfer COVID-19 bellach wedi dod i ben gyda mwy nag 85 y cant o’r bobl gymwys sy’n byw ac yn gweithio yng Ngogledd Cymru wedi cael eu brechu.

Mae cam diweddaraf ein hymgyrch wedi bod yn llwyddiant ysgubol gan fynd heibio’r targed cenedlaethol o 75 y cant gyda mwy na 73,000 o frechiadau yn cael eu rhoi (81.7 y cant oedd y cyfanswm cenedlaethol), a mwy na dwy filiwn wedi eu rhoi i gyd ers i’r rhaglen ddechrau ym mis Rhagfyr 2020.

Hoffem ddiolch i’r bobl hynny sydd wedi mynychu eu hapwyntiadau, y cartrefi gofal ar draws Gogledd Cymru sydd wedi gweithio gyda ni i amddiffyn preswylwyr, a’n staff a gwirfoddolwyr am eu gwaith caled.

Y tro yma, y bwriad oedd amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, gan gynnwys preswylwyr mewn cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn, pobl dros 75 oed a’r rhai dros bum mlwydd oed sy’n dioddef o wrthimiwnedd. Er ein bod wedi symud oddi wrth ymateb brys i’r pandemig, mae’n dal i fod yn bwysig i’r bobl hynny sydd mewn mwy o berygl o fynd yn sâl, gael eu brechlyn. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod ansicrwydd o hyd ynghylch sut y bydd y firws yn newid yn y dyfodol.

Rydym yn cynllunio cam nesaf yr ymgyrch ar hyn o bryd, ac ‘rydym yn disgwyl dechrau hwnnw yn ystod yr hydref a byddwn yn rhannu mwy o fanylion maes o law.