Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Brechu 15 Mai

15/05/23

"Mae mwy na dwy filiwn o frechiadau COVID-19 bellach wedi'u rhoi i bobl sy'n byw neu'n gweithio yng Ngogledd Cymru gan ein staff a chydweithwyr gofal sylfaenol sy'n lleol i Ogledd Cymru. 

Cyrhaeddwyd y garreg filltir arwyddocaol hon heddiw wrth i’r rhaglen frechu barhau i chwarae rhan bwysig o ran diogelu ein cymunedau.

Mae ein staff a’n partneriaid gofal sylfaenol wedi chwarae rhan sylweddol yn y gwaith o gyflwyno rhaglen frechu sy’n arwain y byd, ac sy’n rhan o’r rhaglen imiwneiddio fwyaf a ymgymerodd y GIG erioed.

Rhoddwyd y brechiadau hyn mewn dros 200 o leoliadau gwahanol, gan gynnwys cartrefi gofal, meddygfeydd, canolfannau brechu torfol, clinigau symudol a fferyllfeydd cymunedol, fel rhan o ymdrech drefniadol enfawr i sicrhau bod poblogaeth Gogledd Cymru yn cael mynediad teg at y brechlyn.

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi gwneud yr ymgyrch hon yn llwyddiant anhygoel, a hefyd i bob un o’r bobl hynny sydd wedi cael eu brechu."

Kailey Ben-Sassi, Fferyllydd Arweiniol Strategaeth Imiwneiddio

Ymgyrch atgyfnerthu'r gwanwyn

Mae’r cam diweddaraf yn ein hymgyrch brechu COVID-19 yn canolbwyntio ar y rhai yn ein cymunedau sydd fwyaf agored i niwed. Mae hyn yn cynnwys preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn, pobl 75 oed a hŷn, a’r rhai pum mlwydd oed a hŷn sydd ag imiwnedd isel. 

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae ein timau brechu wedi bod yn brysur yn cynnig brechlyn atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn i breswylwyr mewn cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn, a'r rhai sy’n hŷn na 75 oed ac yn gaeth i'r tŷ.

Nawr, byddwn yn dechrau gwahodd pobl gymwys eraill i gael eu brechiadau. Byddwn yn gwneud hyn drwy lythyr drwy’r post. Nid oes angen i unrhyw un gysylltu â’r Bwrdd Iechyd na’u meddyg teulu.

Ceisiwch fynychu'r apwyntiad sydd wedi'i drefnu os yw'n bosibl. Ond os oes rhaid i chi ganslo neu aildrefnu’r apwyntiad, rhowch wybod i ni drwy’r Ganolfan Gyswllt Brechu COVID-19 gan fod methu apwyntiadau yn effeithio ar ein hadnoddau.

Gallwch gysylltu â'r Ganolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840004, sydd ar agor rhwng 8am a 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9am a 2pm ar y penwythnos.

Brechiadau i blant rhwng 6 mis a 4 oed

Mae plant rhwng 6 mis a 4 oed yn gymwys i gael cwrs sylfaenol o ddau ddos o frechiad COVID-19 os ystyrir eu bod yn y categori “mewn perygl”.

Bydd y Bwrdd Iechyd yn dechrau cysylltu’n uniongyrchol â rhieni neu warcheidwaid y plant sy’n gymwys ar gyfer y cynnig hwn o fewn y pythefnos nesaf i ddechrau archebu lle mewn clinigau a fydd yn rhedeg o ddiwedd mis Mai.