Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Brechu - 13 Mehefin 2023

Clinigau Galw i Mewn

Fel rydym yn nesáu at ddiwedd rhaglen atgyfnerthu COVID-19 ar gyfer y gwanwyn, byddwn yn agor ein canolfannau brechu ar gyfer y rhai sy’n awyddus i alw i mewn. Mae hyn yn sicrhau bod pob unigolyn cymwys nad ydynt eto efallai wedi derbyn gwahoddiad, yn cael cyfle i dderbyn eu brechiad cyn cau’r rhaglen ar 30 Mehefin 2023. 

Bydd clinigau galw i mewn ar agor am bythefnos o ddydd Gwener (16 Mehefin) ar gyfer pobl sy’n gymwys un ai am frechiad atgyfnerthu COVID-19 ar gyfer y gwanwyn neu sydd eto i gael eu dosau sylfaenol.

Nid oes angen i’r rheiny sy’n gymwys archebu a gellir dod o hyd i fanylion ynghylch lle mae’r brechiadau i’w cael ar y gwefan.

I bobl sydd wedi derbyn eu gwahoddiad drwy’r post, rydym yn dal i’w hannog i fynychu’r apwyntiad a drefnwyd sy’n cael ei gynnig os yw’n bosibl, ond os bydd angen i chi ganslo neu aildrefnu, yna gadewch i ni wybod drwy’r Ganolfan Gyswllt Brechiadau COVID – 19 gan fod colli apwyntiadau yn cael effaith ar ein hadnoddau.

Bydd trigolion sy’n gaeth i’w cartrefi nad ydynt wedi derbyn brechiad atgyfnerthu, un ai trwy ddod yn gymwys yn ddiweddar neu nad oeddent ar gael ar gyfer apwyntiad wedi ei drefnu ymlaen llaw, yn gallu cael eu brechu mewn cerbyd os gallant fynychu un o’n canolfannau brechu, gan y bydd yn anodd cyrraedd unigolion sydd newydd eu dynodi fel rhai sy’n gaeth i’r tŷ yn y grŵp hwn i’w wneud mor hygyrch â phosibl.

Anelir y cam olaf o’n hymgyrch brechu COVID-19 at y mwyaf bregus yn ein cymunedau, yn cynnwys preswylwyr mewn cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn, pobl 75 oed a throsodd a’r rheiny sy’n bum mlwydd oed sydd â system imiwnedd wan. Hyd yn hyn mae, 98 y cant o’r bobl gymwys hynny wedi derbyn gwahoddiad ar gyfer eu dos atgyfnerthu ac mae 70 y cant wedi cael eu brechu. Golyga hyn fod yr ymgyrch ar y trywydd iawn i gyrraedd ei tharged o amddiffyn o leiaf 75 y cant o’r rheiny sydd â’r risg fwyaf yn ein cymunedau.

Gellir cysylltu â’r Ganolfan Cyswllt Brechiadau COVID-19 ar 03000 840004, sydd ar agor o 8am hyd 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 9am i 2pm ar y penwythnos.