Peidiwch ag oedi - mae dal amser i dderbyn eich brechiad COVID-19 Atgyfnerthu ar gyfer y Gwanwyn!
Mae rhaglen y Pigiad Atgyfnerthu ar gyfer y Gwanwyn yn cynnig ail frechiad atgyfnerthu ar gyfer y rhai sy'n gymwys yn dilyn cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI).
Daw rhaglen y Pigiad Atgyfnerthu ar gyfer y Gwanwyn i ben wythnos nesaf ar 30 Mehefin 2022 felly rydym yn annog pawb i sicrhau bod eu perthnasau sy'n hŷn na 75 oed wedi dod atom i dderbyn eu Pigiad Atgyfnerthu ar gyfer y Gwanwyn.
Mae'r holl wahoddiadau brechu wedi cael eu hanfon allan i'r sawl sy'n gymwys, ond os teimlwch ein bod wedi'ch colli, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt ar 03000 840004 neu ewch i un o'n clinigau galw heibio.
Y rhai sy'n gymwys ar gyfer rhaglen y Pigiad Atgyfnerthu ar gyfer y Gwanwyn yw:
Dywedodd Graham Rustom, Rheolwr Rhaglen Brechu Rhag COVID-19:
"Rydym yn apelio at unrhyw un sy'n hŷn na 75 oed nad yw wedi derbyn eu Pigiad Atgyfnerthu ar gyfer y Gwanwyn eto naill ai i drefnu apwyntiad neu i fynd i un o'n clinigau galw heibio.
"Bydd derbyn Pigiad Atgyfnerthu ar gyfer y Gwanwyn yn cynnig gwell amddiffyniad rhag salwch difrifol o ganlyniad i COVID-19 i'r sawl sy'n fwy agored i niwed."