Neidio i'r prif gynnwy

Dosbarth Pedwar: Sut ydyn ni'n gwneud penderfyniadau

Mae dosbarth pedwar yn cynnwys gwybodaeth am: 

Papurau'r Bwrdd
Cofrestr Risk Gorfforaethol
Safonau Iechyd

Cyhoeddwyd Safonau Gofal Iechyd yng Nghymru “Creu’r Cysylltiadau, Cynllun Oes” yn wreiddiol yn 2005 a daeth yn weithredol yn ystod Mehefin 2005.

Fframwaith Perfformiad ac Atebolrwydd

Mae’r Fframwaith Perfformiad ac Atebolrwydd yn amlinellu sut all y Bwrdd Iechyd ddynodi meysydd o ragoriaeth yn hawdd ar gyfer ei rannu a’i ddathlu’n ehangach a meysydd lle all fod angen mwy o gefnogaeth. Dyma’r fframwaith y mae’r Bwrdd, Tîm Arweinyddiaeth Gweithredol, ysbytai, timau arbenigedd ac arweinyddiaeth ardal gofal cychwynnol a chymuned a swyddogaethau corfforaethol yn cael eu dwyn i gyfrir am eu perfformiad.

Strategaethau ymgysylltu â chleifion a'r cyhoedd
Ymgynghoriadau cyhoeddus

Bydd gwybodaeth am ymgynghoriadau cyhoeddus yn ymddangos yma wrth iddyn nhw gael eu cyhoeddi, i gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r Tîm Ymgysylltu. 

Canllawiau cyfathrebu mewnol a'r meini prawf sy'n cael eu defnyddio i wneud penderfyniadau

Bydd penderfyniadau strategol allweddol ar gyfer y sefydliad yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru a'r rheini sydd ar lefel Cyfarwyddwyr Gweithredol ac aelodau'r Bwrdd. 

Y tîm cyfathrebu sy'n gyfrifol am gyfathrebu mewnol, delio ag ymholiadau gan y wasg, sianeli digidol a chysylltiadau cyhoeddus ar gyfer y sefydliad. 

Bydd gwybodaeth sy'n cael ei darparu yn y Dosbarth yma'n cydymffurfio â gofynion ein Safonau'r Gymraeg