Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant

Mae HEIW wedi gweithio gyda chydweithwyr ar draws Cymru i greu rhaglen hyfforddiant i gefnogi gweithwyr Gofal Iechyd a Chymdeithasol i roi meddyginiaethau drwy'r geg ac argroenol yn ddiogel, o'r pecyn gwreiddiol, yn ystod y pandemig COVID-19. Mae bellach ar gael ar wefan Fferyllfa HEIW. Datblygwyd y rhaglen hyfforddiant ar gyfer unrhyw un sy'n cefnogi unigolion gyda meddyginiaethau o fewn lleoliadau'r GIG neu awdurdod lleol, yn ogystal ag unrhyw ofalwr anffurfiol. Mae rhestr wirio rhoi meddyginiaeth ar gael hefyd i annog gweithwyr gofal i roi meddyginiaeth mewn ffordd ddiogel a dylai gael ei ddefnyddio gan reolwyr i roi sicrwydd i'w hunain o gymhwyster unigol. Er mwyn cael mynediad at yr hyfforddiant, mae'n rhaid i chi gofrestru ar y wefan. Mae'n rhad ac am ddim.