Neidio i'r prif gynnwy

Polisïau a Gweithdrefnau Rheoli Meddyginiaethau ar gyfer HCSW a phob Gofalwr

DIWYGIWYD DROS DRO AR GYFER Y PANDEMIG COVID-19: Dilys tan Ebrill 2021

Cliciwch yma i weld y dudalen hon yn y Gymraeg.

Cyflwyniad i'r wefan ar gyfer dogfennau Gweithwyr Gofal.

Mae'r Dulliau Gweithredu Safonol (SOP) hyn a'r pecyn asesu cymhwysedd ar gyfer rhoi meddyginiaethau wedi cael eu creu er mwyn i bob lleoliad Gofal eu mabwysiadu fel bo'n briodol i'w harfer. Yn ystod y Pandemig Coronavirus COVID-19 hwn, cytunwyd bod y lefel addysg ar gyfer rhai SOP wedi cael ei ostwng o QCF lefel 3 i lefel 2. Bydd gan bob SOP syniad clir o'r lefel sy'n ofynnol. Mae hyn wedi digwydd oherwydd lefel y galw a ragwelir yn ystod yr achos hwn i gefnogi parhad gofal a darpariaeth gwasanaethau yn y gymuned.

Mae'n rhaid i Weithwyr/Cynorthwywyr Cefnogi Gofal Iechyd gael eu hyfforddi a'u hasesu fel rhai cymwys gan y darparwr gwasanaeth cyn iddynt roi unrhyw feddyginiaethau a dylent ond roi meddyginiaeth pan fydd cytundeb wedi'i gofnodi'n glir i wneud hynny yn y cynllun gofal ynghyd â chyfarwyddiadau clir gan y rhagnodwr o ran sut y dylid defnyddio'r feddyginiaeth.


Ym mis Rhagfyr 2012 sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen er mwyn cytuno ar safonau arfer gorau, a gweithdrefnau gweithredu safonol ar gyfer y defnydd o feddyginiaeth ar gyfer oedolion ym mhob lleoliad gofal yng Ngogledd Cymru. Prif sbardun y fenter oedd diogelwch a lles y dinesydd / preswylydd gan sicrhau gwaeth pwy/ble sy'n darparu gofal yn ymwneud â rheoli meddyginiaethau, mae'r safon a'r hyfforddiant a chymhwysedd y gweithlu yr un fath. Gweler y dolenni at y polisïau isod.

Bydd BIPBC a phob un o'r Awdurdodau Lleol o fewn ei ffin yn nodi y bydd holl ddarparwyr y gwasanaethau sy'n ymwneud â meddyginiaethau yn cael eu comisiynu i ddarparu safonau rheoli meddyginiaethau a nodir yn y cod ymarfer, y safonau arfer gorau a Gweithdrefn Gweithredu Safonol ar gyfer rheoli meddyginiaethau.

Mae’n RHAID i bob sefydliad ddarllen y polisïau Gogledd Cymru canlynol isod a’r gofynion hyfforddiant cyn symud ymlaen i’r dolenni dogfennaeth ar y wefan hon:-

Polisiau Gogledd Cymru

Cydgytundeb Cod Ymarfer BIPBC ac Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru - Ar Gyfer Rheoli Meddyginiaethau Mewn Lleoliadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol July 2016

Safonau arfer gorau a dulliau gweithredu safonol yn ymwneud a rheoli meddyginiaethau ar gyfer yr holl leoliadau gofal derfynol Ebrill 2020