Neidio i'r prif gynnwy

Uned Mân Anafiadau Tywyn yn ailagor

21.07.23

Mae Uned Mân Anafiadau Tywyn wedi ailagor i gleifion y mis hwn yn dilyn ymgyrch recriwtio lwyddiannus.

Caewyd yr uned dros dro dair blynedd yn ôl oherwydd trafferthion recriwtio a staffio hirdymor.

Mae'r uned ar agor ar hyn o bryd o ddydd Mawrth i ddydd Iau rhwng 9am a 4pm i drin anafiadau nad ydyn nhw'n ddifrifol neu'n bygwth bywyd.

Dywedodd Claire Brown, Ymarferydd Gofal Clinigol yn yr UMA, ei bod yn falch iawn o weld yr UMA yn ailagor ar gyfer y gymuned.

Dywedodd: “Rwy’n hapus iawn ein bod wedi gallu ailagor yr UMA a dod â’r gwasanaeth hwn yn ôl i’n cymuned.

“Ar hyn o bryd rydym yn cynnig gwasanaeth llai hyd nes y byddwn wedi ein staffio’n llawn a phan fydd hynny wedi digwydd, rydym yn gobeithio cynnig gwasanaeth pum diwrnod yr wythnos.

“Mae’n gam positif iawn i ni yma yn Ysbyty Tywyn ac rydyn ni i gyd yn falch iawn o weld y gwasanaeth yn agor unwaith eto.”

Mae ailagor yr Uned Mân Anafiadau yn dilyn agor Ystafell Driniaeth newydd yn yr ysbyty sydd yn darparu gwasanaeth ychwanegol gan weithio ar y cyd â meddygfeydd i gynnig ystod ehangach o adnoddau i gleifion yn eu cymuned leol.

Dywedodd Janw Hughes-Evans, Cyfarwyddwr Nyrsio ar gyfer Cymuned Iechyd Integredig y Gorllewin Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu recriwtio aelodau staff newydd i ailagor ein gwasanaeth UMA yn Nhywyn.

Er bod y ward ar gau ar hyn o bryd, mae ein hymdrechion i recriwtio nyrsys newydd yn parhau. Mae nifer o swyddi gwag heb eu llenwi wedi ein hatal rhag agor y ward hyd yma. Rydym bellach wedi penodi Rheolwr Ward a Dirprwy Reolwr Ward, ond rydym dal i fod angen penodi ar gyfer tair swydd nyrsio arall er mwyn ailagor y ward yn ddiogel.”

Am ragor o wybodaeth am ein Hunedau Mân Anafiadau ewch i'n gwefan