Neidio i'r prif gynnwy

Ystafell Driniaeth newydd nawr ar gael yn Ysbyty Tywyn

09 Mehefin, 2023

Mae Ystafell Driniaeth newydd bellach ar gael yn Ysbyty Tywyn. Bydd yn cynnig ffordd amgen o gael mynediad at driniaeth a lleihau'r pwysau ar wasanaethau lleol. 

Mae'r Ystafell Driniaeth yn fenter gwasanaeth a grëwyd i weithio ar y cyd â meddygfeydd er mwyn cynnig ystod ehangach o gyfleusterau i gleifion yn eu cymuned leol.

Mae'r tîm o staff nyrsio sy'n gweithio yn yr uned yn gofalu am bob math o glwyfau, gan gynnwys newid gorchuddion, wlserau ar y goes a rhwymau cywasgu.

Dywedodd Olwen Edwards, Nyrs Staff sydd wedi gweithio yn yr ysbyty ers dros 50 mlynedd, ei bod yn falch o fod yn rhan o wasanaeth newydd yn yr ysbyty.

Dywedodd: “Mae’n wych ein bod ni nawr yn gallu cynnig y gwasanaeth hwn i’n cymuned leol. Mae gennym ni gyfleusterau gwych yma yn Ysbyty Tywyn, ac rydym ni'n falch iawn ein bod yn gallu eu defnyddio.

“Byddai rhai o’r cleifion rydym ni’n eu gweld yma nawr, wedi cael eu gweld gan nyrs y practis neu nyrs ardal. Erbyn hyn, maen nhw’n gallu cael eu cyfeirio atom ni ac rydym ni’n cynnal eu hapwyntiadau dilynol.”

Mae Shui Howard, Ymarferydd Nyrsio Cyswllt, hefyd wedi croesawu’r gwasanaeth newydd ac yn gobeithio y bydd yn esblygu dros amser.

Dywedodd: “Mae hwn yn wasanaeth newydd gwych sydd gennym ni yma yn Nhywyn ac mae hefyd yn helpu i ryddhau amser y feddygfa a'r nyrsys ardal i adael iddynt flaenoriaethu'r cleifion sydd angen sylw brys.

“Nawr bod gennym ni’r gwasanaeth hwn, rydym ni’n gobeithio y gallwn ni ei ddatblygu dros amser er mwyn cynnig mwy o driniaethau.”

Mae Olwen a Shui wedi dechrau yn eu rolau newydd ers cau ward yn yr ysbyty am gyfnod dros dro ym mis Ebrill 2023.

Tra bod y ward cleifion mewnol ar gau dros dro a recriwtio nyrsys newydd yn parhau, mae rhai o'r Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd wedi cael hyfforddiant ychwanegol i ddatblygu eu sgiliau a'u cymwyseddau ac maent bellach yn cefnogi gwasanaeth Tuag Adref yn Nhywyn. Mae gwasanaeth Tuag Adref yn rhoi cymorth i gleifion yn eu cartrefi ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o'r ysbyty yn ogystal  â chynnig cefnogaeth ychwanegol i helpu unigolion i aros yn eu cartrefi trwy ddarparu gofal ychwanegol ac adsefydlu yn y cartref.

Dywedodd Ffion Johnstone, Cyfarwyddwr Cymuned Iechyd Integredig y Gorllewin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydym yn parhau i recriwtio ar gyfer staff nyrsio newydd i ailagor ein ward cleifion mewnol yn Ysbyty Tywyn.

“Rydym wedi lansio ymgyrch recriwtio ar draws y sir a thu hwnt, a gobeithiwn y bydd yn denu nyrsys newydd i’r ardal.

“Rydym ni’n falch ein bod bellach yn gallu cynnig gwasanaeth Ystafell Driniaeth i’n cymuned yn Nhywyn ac rydym yn edrych ymlaen at ailagor ein Huned Mân Anafiadau haf yma.

“Hoffem ddiolch i’n staff a gafodd eu heffeithio pan gaewyd y ward dros dro, am ein cefnogi i agor gwasanaeth newydd yn yr ysbyty, ac i’r rhai sy’n cefnogi ein gwasanaeth Tuag Adref ar hyn o bryd sydd wedi ein galluogi i ehangu’r gwasanaeth hwnnw i gefnogi mwy o bobl sydd angen cefnogaeth ychwanegol yn eu cartref.”