Neidio i'r prif gynnwy

Tystiolaethau teimladwy tadau yn taflu goleuni ar ganlyniadau dirdynnol cam-drin plant yn rhywiol

17.04.2024

Mae fideos newydd trawiadol a ryddhawyd gan wasanaeth cymorth trais rhywiol yng Ngogledd Cymru yn rhoi cipolwg dirdynnol ar y poen meddwl y mae troseddau yn erbyn plant yn ei achosi i dadau dioddefwyr.

Comisiynodd Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Amethyst (SARC) ym Mae Colwyn y gyfres o ffilmiau byrion, sy'n arddangos adroddiadau pwerus uniongyrchol o brofiadau tadau a gofalwyr gwrywaidd plant sy'n goroesi trais rhywiol o Ogledd Cymru.

Mae eu straeon, sydd i raddau helaeth heb gael eu clywed, yn manylu ar y teimladau o wrthdaro y bu'n rhaid iddynt eu hwynebu eu hunain yn sgil troseddau ofnadwy yn erbyn eu plant. Mae'r ffilmiau'n edrych mewn ffordd emosiynol ar sut roedd teimladau dealladwy o ddicter a dialedd yn cystadlu yn erbyn yr angen i fod yn bresennol i gefnogi a rhoi sicrwydd i'w plentyn.

Mae cyfres arall o gyfweliadau gonest yn archwilio'r materion yr oeddent hwy a'u partneriaid yn eu hwynebu fel cyplau, wrth iddynt ail-adeiladu eu bywydau teuluol ar ôl trawma o'r fath.

Esboniodd tadau a gofalwyr gwrywaidd goroeswyr yn ddidwyll eu hymatebion uniongyrchol i droseddau a achoswyd i'w plant.

Canolfan Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol - Amethyst - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Roedd y sylwadau'n cynnwys: "Roeddwn i mor flin. Ro'n i'n gorwedd yn y gwely’n y nos, methu cysgu, meddwl am y peth... yn meddwl bod rhaid i mi amddiffyn fy mhlant...'

"Roedd pob math o bethau'n mynd trwy fy meddwl. I ddechrau, y peth cyntaf yn mynd trwy fy meddwl oedd trais. Roeddwn i eisiau ail-drefnu rhannau o'i gorff..."

"Pan fyddwch chi'n dweud wrth un o'ch ffrindiau, y peth cyntaf fyddan nhw'n ei ddweud wrthych chi ydi 'iawn, pryd rydyn ni'n mynd lawr yna? Gadewch i ni sortio hyn ..."

"Dydych chi ddim yn gwybod sut y dylech chi ymateb pan rydych chi'n ddyn. A ddylwn i fod yn rhoi cweir [i’r tramgwyddwr]? Pan na wnewch hynny, rydych chi’n cwestiynu’ch hun. Ydw i'n ddrwg, felly, am beidio â gweithredu yn y ffordd yna?"

Esboniodd un tad sut y rhedodd allan o'r tŷ wrth glywed y newyddion, a chael ei ddilyn gan ei bartner a ofynnodd beth roedd o’n ei wneud.

Roedd hi'n cofio: "Mi wnaeth o jyst crio ac mi wnes i roi cwtsh iddo a dweud 'mae hi d’angen di'."

Mae'r ffilmiau diweddaraf hyn, a elwir yn ‘Tadau a Rhieni’n Rhannu Straeon’, yn adnoddau arloesol pellach i ddioddefwyr a'u teuluoedd a gynhyrchwyd gan Amethyst SARC - a grëwyd gydag arian a roddwyd gan Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Gymunedol (PACT).

Mae ffilm a llyfryn blaenorol a ddatblygwyd gan Amethyst SARC, o'r enw Rhannu Straeon ac sy'n cynnwys tystiolaethau goroeswyr trais rhywiol plant, bellach yn offeryn cymorth gwerthfawr sy'n cael ei ddefnyddio ledled y Deyrnas Unedig.

Mae cyfleuster ymroddedig ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd cymunedol wedi agor yn Wrecsam - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Mae Hannah Mart yn eiriolwr trais rhywiol i blant a phobl ifanc gydag Amethyst SARC. Ei syniad hi oedd datblygu'r ffilmiau newydd.

Eglurodd: "Rwy'n credu ein bod ni’n gwybod nad oedd dim byd arall fel hyn mewn bodolaeth a chyda’n profiad o wneud Rhannu Straeon roedd hyd yn oed y bobl ifanc hynny, a oedd wedi cael cryn dipyn o gefnogaeth, yn dweud 'doeddwn i ddim yn gwybod bod pawb arall yn teimlo felly' pan ddarllenon nhw'r llyfryn.

"Rydyn ni'n gwybod bod trais rhywiol yn gallu bod yn ynysig. Mae cymaint o resymau pam na all pobl siarad am y peth neu resymau pam na chaniatëir iddynt siarad amdano.

"Mae'n ei gwneud hi'n anodd iawn trafod - fel y mynegwyd yn y ffilm - ac mae pobl yn teimlo fel nad oes ganddyn nhw'r iaith i'w drafod.

"Hyd yn oed fel rhywun sy'n brofiadol iawn yn y byd yma, dwi'n aml yn gweld fy hun yn dweud 'nid dyma'r iaith iawn ond...'

"Ond rydym yn gwybod pa mor bwerus y gall fod i glywed eich profiadau eich hun yn cael eu trafod. Felly dyna oedden ni eisiau ei wneud - dechrau sgwrs, normaleiddio a dilysu profiadau pobl a helpu pobl i ddechrau gwella."

Mae'r fideos yn croniclo teithiau teuluoedd o'r iachâd hwnnw a delio â'r digwyddiadau trawmatig - a sut y dysgodd tadau ganolbwyntio ar elfennau pwysicaf yr achosion torcalonus hyn, lles eu plant.

Mae gwasanaeth cymorth ffôn iechyd meddwl newydd yn delio â bron i 12,000 o alwadau yn ei flwyddyn gyntaf - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Maent hefyd yn dangos gwerth y gefnogaeth mae sefydliadau arbenigol, fel Amethyst SARC, yn ei roi i deuluoedd wrth iddynt lywio bywyd. Mae hynny'n cynnwys mynd ar drywydd cyfiawnder drwy'r system gyfreithiol - os mai dyna mae goroeswyr a'u teuluoedd yn penderfynu ei wneud.

Fel dywedodd un tad: "Mae angen i bobl ddeall, pan maen nhw'n adrodd pethau fel hyn, nad mynd i'r llys neu orsaf yr heddlu yn unig sy'n wirioneddol frawychus - a dwi'n meddwl mai dyna pam nad yw pobl yn [adrodd am droseddau] - ond mae cymuned allan yna sy'n helpu pobl fregus.

"Ac yn gallu siarad â nhw mewn ffordd wahanol i’r modd y gall rhiant siarad â nhw a'u cysuro a'u helpu drwy'r broses o fynd i'r llys - o fynd i orsaf yr heddlu a rhoi tystiolaeth.

"Ar ôl y llys, mae'r system ôl-ofal sydd ar waith yno yn amhrisiadwy. Dwi ddim yn gwybod beth fyddai fy llysferch wedi ei wneud heb hynny."

Cydnabu Ashley Rogers, Cadeirydd PACT, bwysigrwydd cefnogi'r fenter unigryw hon a dywedodd: "Rwy'n hynod falch bod PACT wedi gallu parhau i gefnogi teuluoedd dioddefwyr ifanc gyda chyfres mor bwerus a theimladwy o ffilmiau.

"Rwy'n siŵr y bydd y ffilmiau hyn yn cael eu defnyddio'n eang ar draws Gogledd Cymru a thu hwnt, gan gefnogi tadau a theuluoedd sy'n mynd trwy brofiadau tebyg."

Mae SARC Amethyst yn wasanaeth annibynnol a arweinir gan y Bwrdd Iechyd sydd wedi'i leoli yng Nghanolfan Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC), Bae Colwyn.

Gellir gweld fideos Tadau a Rhieni’n Rhannu Straeon o heddiw ymlaen ar: Gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol: Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Amethyst yng Ngogledd Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (GIG.Cymru)

Gallwch ddarganfod mwy am PACT yn https://www.pactnorthwales.co.uk/cy/

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)