Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol - Amethyst

Mae Amethyst yn Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) ar gyfer Gogledd Cymru, lle mae ystod o weithwyr proffesiynol sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig yn darparu cymorth, cefnogaeth a gwybodaeth i oedolion, plan a phobl ifanc sydd wedi’u treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol yng Ngogledd Cymru.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r heddlu, y sector iechyd a gwasanaethau gwirfoddol y trydydd sector i sicrhau bod dioddefwyr y troseddau hyn yn cael mynediad at y gofal gorau posibl. Rydym yn annibynnol ar yr Heddlu a’r broses cyfiawnder troseddol.

Sut gallwn ni helpu? 

  • Gallwn esbonio’r opsiynau amrywiol a all fod ar gael i’ch helpu i wneud y penderfyniad cywir ar gyfer eich sefyllfa.
  • Os ydych wedi cael eich treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol gallwch siarad yn gyfrinachol ag aelod o staff sydd wedi’i hyfforddi’n arbennig yn y SARC am yr opsiynau sydd ar gael i chi.
  • Gallwn drefnu archwiliad meddygol fforensig os yw’r ymosodiad wedi digwydd o fewn y saith i ddeg diwrnod diwethaf. Weithiau gall fod yn ddefnyddiol cael archwiliad fforensig hyd yn oed os digwyddodd yr ymosodiad fwy na deng niwrnod yn ôl.
  • Gallwn helpu trwy esbonio’r broses cyfiawnder troseddol.
  • Gallwn gynnig cymorth trwy ein Cynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol (ISVAs) sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig. Nid oes rhaid i chi wneud adroddiad i’r heddlu i gael mynediad at y cymorth hwn.
  • Gallwn gynnig sgrinio iechyd rhywiol ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yma yn y SARC neu eich cyfeirio am apwyntiad yn lleol.
  • Os bydd ymchwiliad yr heddlu yn mynd ymlaen i’r llys, gall ein Cynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol (ISVAs) a Chynghorwyr Trais Rhywiol Plant a Phobl Ifanc (CYPSVAs) eich cefnogi trwy’r broses

Rydym yn gwerthfawrogi adborth gan bob un o’n cleientiaid, beth bynnag fo’u hoedran, a thrwy gydol yr amser meant yn cael cymorth gennym ni. Hyd yn oed os penderfynwch nad ydych am gael unrhyw gefnogaeth bellach gennym ni, rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Cysylltwch â ni ar BCU.Amethyst@wales.nhs.uk  neu ffoniwch ein swyddfa SARC a gofynnwch am gael siarad â rheolwr. Os ydych yn awyddus i roi adborth yn ddienw, gallwch wneud hynny trwy gysylltu â’n Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion sy’n annibynnol oddi ar ein gwasanaeth.