Neidio i'r prif gynnwy

'Rydym ar groesffordd o fyd newydd cyffrous...a ni sydd ar y pen blaen'

06.06.23

Mae patholegydd ymgynghorol sydd wedi arloesi yn y defnydd o feddalwedd AI i helpu i wneud diagnosis o ganser y brostad, yn arwain ymchwydd arall i'r hyn a elwir yn "batholeg gyfrifiadurol".

Mae Dr Muhammad Aslam a’i gydweithiwr Dr Anu Gunavardhan wedi bod yn defnyddio’r rhaglen i helpu i wneud diagnosis o ganser y fron.

Mae'r cais, a elwir yn blatfform Galen ac a ddatblygwyd gan Ibex Medical Analytics, wedi'i dreialu o fewn y Bwrdd Iechyd, a'r tîm yw'r cyntaf yn y DU i'w ddefnyddio'n glinigol i gynorthwyo wrth wneud diagnosis o ganser y fron.

Mae Dr Aslam yn credu y gallai'r defnydd clinigol newydd hwn gyflwyno gwawr o gyfnod newydd mewn diagnosteg canser, gan fod triniaeth ar gyfer canser y fron yn gofyn am brofion cyflym a chywir er mwyn cael canlyniadau mwy llwyddiannus i gleifion.

“Rydym ar groesffordd o fyd newydd cyffrous ac rydym ar y pen blaen o fewn Betsi Cadwaladr,” dywedodd. “Gyda’r llwyth gwaith sydd gennym yn y GIG mae hi’n bwysicach nag erioed i ni wneud diagnosis yn gyflymach ac yn fwy cywir.”

Meddyg o Ysbyty Gwynedd yn cael ei chydnabod mewn seremoni wobrwyo genedlaethol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Yn nhreial blaenorol Dr Aslam, gan ei ddefnyddio fel teclyn diagnosteg canser y brostad, roedd y rhaglen yn edrych ar 1,600 biopsi ac fe wnaeth ddiagnosis o 13% o ganserau yn fwy o’i gymharu â heb gymorth Al.

Y gwahaniaeth mwyaf yn y lleoliad clinigol hwn yw eu bod nid yn unig yn chwilio am y nodwyr canser diagnostig ond hefyd y nodwyr prognosis, a fydd yn dangos pa driniaethau neu gyfuniadau o driniaethau fydd yn effeithiol i gleifion.

Gallai hyn gynorthwyo yn y gwaith o wneud diagnosis cyflymach o ganserau penodol y mae’r cleifion yn dioddef ohonynt. O ganlyniad, bydd modd gwneud penderfyniadau o ran triniaeth yn gynt.

Mae symleiddio’r system o wneud diagnosis yn hollbwysig i’r tîm oherwydd y gwahanol fathau o ganser y fron, sydd angen triniaethau amrywiol.  

Dr Gunavardhan yw Patholegydd Arweiniol y Fron ym BIPBC a Phatholegydd Sicrwydd Ansawdd ar gyfer Bron Brawf Cymru. Ar ben hynny, hi yw cadeirydd cyngor rhanbarthol Cymru yng  Ngholeg Brenhinol y Patholegwyr.

Dywedodd: “Rydym angen derbyn y canlyniadau mor sydyn â phosibl, mae poen meddwl y cleifion yn uchel.

“Ein targedau cenedlaethol yw cael gwybod beth yw’r diagnosis ymhen tridiau, a phenderfynu ar driniaeth mewn saith diwrnod. Rydym wedi blaenoriaethu canser y fron.

“Nid oes gennym bob amser ddigon o staff i ddarparu’r gwasanaeth hwn, felly rydym yn ystyried sut allai’r rhaglen hon ein helpu ni.”

Meddyg yn annog y cyhoedd i amddiffyn eu croen wrth gael hwyl yn yr haul - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Mae’r platfform Galen yn ennill gwybodaeth wrth iddo fynd yn ei flaen. Bydd patholegwyr yn gwirio'r canlyniadau am gywirdeb ac mae'r system yn dysgu o'u mewnbwn ar gyfer profion yn y dyfodol.

“Nid yw rhoi diagnosis o ganser y fron yn anodd, ond rydym angen biofarcwyr cymar i benderfynu pa driniaeth y mae’r claf yn ei derbyn,” parhaodd Dr Gunavardhan.

“Y biofarcwyr, y derbynnydd hormon sy’n marcio’r canser, sy’n penderfynu pa driniaeth sy’n cael ei rhoi.”

"Rôl Dr Gunavardhan yw gweld a all y feddalwedd AI hon helpu i wneud y broses yn fwy cryno," meddai Dr Aslam. "Os gellir cwtogi'r llwybr sampl o’r biopsi i ddiagnosis diffiniol gyda biofarcwyr a'i wneud yn effeithlon, gall y tîm amlddisgyblaethol wneud y penderfyniad o ran triniaeth heb oedi."

Yn ôl Dr Aslam, dylem ei alw’n “ddeallusrwydd cynorthwyol” yn hytrach na deallusrwydd artiffisial gan y bydd angen barn clinigydd bob amser cyn dod i benderfyniad terfynol ynglŷn â’r diagnosis.

Mae profion canser y brostad 100% yn ddibynadwy. Pan nododd fod celloedd canseraidd yn bodoli, roedd yn gywir, gan gwtogi'r broses ddiagnostig. Ond, yn bwysicach fyth, roedd yn rhoi sicrwydd i batholegwyr eu bod yn dal cymaint o achosion canser â phosibl.

Mae prosiect y fron wedi elwa bron i £100,000 o gyllid gan Sefydliad Moondance  a derbyniodd prosiect y brostad gefnogaeth gan Fenter Ymchwil Busnesau Bach Cymru.

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)