Neidio i'r prif gynnwy

Meddyg yn annog y cyhoedd i amddiffyn eu croen wrth gael hwyl yn yr haul

31 Mai 2023

Wrth i'r tymheredd godi, mae llawer o bobl â’u bryd ar gael lliw haul hyfryd yr haf hwn.

Serch hynny, nid yw treulio amser yn yr haul heb ei beryglon, yn enwedig o ran ein croen. Mae Dr Jonathan Bertalot, meddyg teulu sydd â diddordeb brwd mewn trin canser y croen, yn annog pobl i gymryd gofal arbennig wrth fwynhau'r tywydd poeth dros y misoedd nesaf.

Mae Dr Bertalot, sy'n Feddyg Teulu yn Llangefni, hefyd yn cynnal clinigau brys ar gyfer achosion lle’r amheuir canser y croen yn Ysbyty Alltwen yn Nhremadog.

Meddai: “Mae’n bwysig cofio nad mewn gwledydd tramor yn unig mae’r haul yn gryf. Gall fod yn ddigon cryf i’ch llosgi yng Nghymru rhwng canol mis Mawrth a chanol mis Hydref.

“Mae pawb eisiau mwynhau’r awyr agored pan fo’r tywydd yn braf, ond mae’n bwysig iawn cofio mwynhau’r tywydd cynnes yn ddiogel – drwy chwilio am gysgod, cuddio’ch croen a rhoi eli haul ar eich croen yn gyson.

“Canser y croen yw’r math mwyaf cyffredin o ganser yn y DU, ac mae’r nifer o bobl sy’n cael diagnosis o’r cyflwr wedi codi’n sylweddol ers y 1970au. Mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw bod yn ymwybodol o’r haul, a pha mor bwysig yw hi i beidio byth â gadael i’ch croen losgi.”

Yn ogystal â bod yn ymwybodol o'r haul, mae Dr Bertalot hefyd yn awyddus i'r cyhoedd gysylltu â'u meddyg teulu os byddant yn sylwi ar unrhyw fannau geni sy'n newid.

“Mae modd trin canser y croen ond mae diagnosis cynnar yn allweddol. Eich meddyg teulu ddylai fod y man galw cyntaf os byddwch yn sylwi ar rywbeth nad yw’n diflannu o fewn ychydig wythnosau neu os ydych yn pryderu am unrhyw fannau geni newydd neu rai sy’n newid,” ychwanegodd.

Roedd Patrick Cain, 60, o Gaernarfon yn un o’r cleifion hynny a weithredodd yn gyflym pan sylwodd ei wraig fod un o’i fannau geni wedi newid dros gyfnod o amser.

Cyfeiriwyd Mr Cain i glinig Dr Bertalot yn Ysbyty Alltwen gan ei Feddyg Teulu, a thynnwyd ei fan geni yno’n ddiweddar, ar gyfer ymchwiliadau pellach.

Meddai: “Yn bersonol doedd gen i ddim syniad bod fy man geni wedi newid gan ei fod ar fy nghefn, felly yn ffodus fe sylweddolodd fy ngwraig fod rhywbeth yn wahanol.

“Cefais fy nghyfeirio gan fy Meddyg Teulu at glinig yn Ysbyty Gwynedd o fewn ychydig wythnosau ac yna ychydig wythnosau’n ddiweddarach tynnais y man geni yn Ysbyty Alltwen, roedd y broses yn gyflym iawn.

“Mae’n bwysig iawn os sylwch chi, neu os bydd rhywun arall yn sylwi, bod man geni wedi newid, eich bod chi’n cael rhywun i edrych arno ar unwaith. Rwy’n gwybod ei fod yn peri gofid wrth aros am yr apwyntiad hwnnw ond mae’n well gwybod, fel y gall y tîm meddygol weithredu’n gyflym.”

Mae Dr Bertalot, sydd wedi gweithio fel Meddyg Arbenigol mewn Dermatoleg dros y chwe blynedd diwethaf, wedi bod yn cynnal cwrs llawfeddygol i feddygon teulu lleol eraill yn Ynys Môn a Gwynedd i’w helpu i gynnig gwasanaethau llawfeddygol o fewn eu practisau eu hunain, fel yr un yn Ysbyty Alltwen.

Dywedodd: “Rydym yn cynnal ein clinig yn Ysbyty Alltwen bob dydd Mercher ac rydym yn gweld y cleifion mwyaf brys sy’n cael eu cyfeirio gan eu meddyg teulu os amheuir canser y croen.

“Rydym yn gwneud mân lawdriniaeth o dan anesthetig lleol er mwyn cymryd biopsi sydd wedyn yn cael ei anfon am ymchwiliadau pellach, a disgwylir y canlyniadau ymhen tua thair wythnos.

“Mae yna dîm gwych o nyrsys sy’n gweithio yn yr adran cleifion allanol yn Alltwen ac mae’r cleifion sy’n mynychu yn ddiolchgar iawn eu bod yn treulio llai o amser yn teithio oherwydd bod y gwasanaeth hwn ar gael o fewn cyrraedd i’w cartrefi”

I gael rhagor o gyngor ar ddiogelwch yn yr haul, dilynwch y ddolen yma