Gofalwch amdanoch eich hun, eich teulu a’ch ffrindiau wrth dreulio amser y tu allan yn yr hau.
Awgrymiadau ar gyfer bod yn ddiogel yn yr haul
Mae’n bwysig amddiffyn eich hun a’ch anwyliaid rhag effeithiau niweidiol yr haul drwy ddilyn yr awgrymiadau hyn:
- Treuliwch amser yn y cysgod pan fo’r gwres ar ei uchaf, rhwng 11am a 3pm
- Osgowch weithgareddau awyr agored egnïol fel chwaraeon, prosiectau adeiladu gartref (DIY) neu arddio. Os nad yw hyn yn bosibl, gwnewch hynny ar adegau llai cynnes yn ystod y dydd
- Defnyddiwch eli haul neu eli atal haul er mwyn helpu i atal llosg haul
- Gorchuddiwch eich hun drwy wisgo crys-t neu ddillad llac eraill
- Gwisgwch het i gysgodi eich pen a sbectol haul i amddiffyn eich llygaid
Pa ffactor eli haul ddylwn i ei ddefnyddio?
Wrth ddefnyddio eli haul, sicrhewch fod gan eich eli haul ffactor amddiffyn rhag yr haul (SPF) o o leiaf 30 i amddiffyn rhag UVB ac o leiaf amddiffyniad UVA 4-seren . Gwiriwch ddyddiad dod i ben yr eli haul cyn ei ddefnyddio.
Sicrhewch eich bod yn defnyddio digonedd o eli haul, yn arbennig os ydych yn mynd i nofio yn yr awyr agored. Gellir canfod rhagor o fanylion ynghylch defnyddio eli haul ar wefan GIG 111 Cymru.
Peidiwch â dibynnu ar eli haul yn unig i amddiffyn eich hun rhag yr haul. Gwisgwch ddillad addas a threuliwch amser yn y cysgod pan fo'r haul ar ei boethaf.
Sut i ddelio â llosg haul
Mae ambell beth y gallwch ei wneud gartref i helpu i leddfu symptomau llosg haul:
- Ar gyfer croen dolurus, defnyddiwch sbwng gyda dŵr oer ar eich croen neu ewch am gawod neu fath oer. Yna rhowch eli ôl haul neu chwistrell i leddfu’r boen fel aloe vera
- Cadwch allan o'r haul nes y bydd pob arwydd o gochni wedi diflannu
- Yfwch ddigon o ddŵr i oeri ac atal dadhydradu
- Bydd poenladdwyr, fel paracetamol neu ibuprofen, yn lleddfu'r boen trwy helpu i leihau llid sydd wedi’i achosi gan losg haul
Pryd i ofyn am gymorth meddygol yn ymwneud â llosg haul
Mae’n bosibl y bydd fferyllydd yn gallu helpu gyda llosg haul trwy gynnig cyngor ac opsiynau triniaeth. Dod o hyd i’ch fferyllydd lleol.
Gofynnwch am apwyntiad brys i weld y Meddyg Teulu neu trowch at GIG 111 Cymru am gymorth os ydych wedi bod allan yn yr haul a’ch bod yn profi’r canlynol:
- pothelli ar eich croen neu’r croen wedi chwyddo
- tymheredd uchel iawn, neu rydych yn teimlo'n boeth ac yn crynu
- teimlo’n flinedig iawn, yn benysgafn neu’n sâl
- cur pen a chrampiau yn eich cyhyrau
- mae gan eich babi neu eich plentyn ifanc losg haul
Gall llosg haul ofnadwy arwain at orflinder gwres a thrawiad gwres, ac fe all hyn fod yn ddifrifol iawn.
Awgrymiadau i ofalu amdanoch eich hun a’r rhai sy’n annwyl i chi yn ystod tywydd poeth
Dilynwch yr awgrymiadau hyn i gadw eich hun a'ch anwyliaid yn ddiogel yn ystod tywydd poeth:
- Yn ystod tywydd poeth, yfwch ddigon o ddŵr i atal dadhydradu.
- Cymerwch fath neu gawod oer, neu sblasiwch eich wyneb â dŵr oer i oeri rhyw fymryn.
- Cadwch lygad ar bobl unig, pobl oedrannus, pobl sy’n sâl neu unigolion ifanc iawn a sicrhewch fod modd iddyn nhw aros yn gymharol oer.
- Cadwch lygad ar gymdogion, teulu neu ffrindiau oedrannus neu sy’n sâl bob dydd os yn bosibl.
- Cadwch feddyginiaethau o dan 25°C neu yn yr oergell (darllenwch y cyfarwyddiadau storio ar y pecyn).
- Chwiliwch am gyngor meddygol os ydych yn dioddef â chyflwr iechyd cronig / yn cymryd meddyginiaethau amrywiol.
Beth i’w wneud os nad ydych yn teimlo’n dda oherwydd tywydd poeth
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn croesawu tywydd poeth, ond pan mae'n rhy boeth daw risgiau iechyd yn ei sgil. Y prif risgiau a achosir gan dywydd poeth yw:
Fel arfer nid oes angen cymorth meddygol brys wrth drin blinder gwres os gallwch oeri o fewn 30 munud. Os yw'n troi'n drawiad gwres, mae angen ei drin fel argyfwng.
Os bydd rhywun yn dangos arwyddion o flinder gwres mae angen oeri’r unigolyn hwnnw a rhoi hylifau iddo. Dilynwch y camau hyn:
- Symudwch yr unigolyn i le sy’n oerach.
- Tynnwch unrhyw ddilledyn amherthnasol, fel siaced neu sanau.
- Anogwch yr unigolyn i yfed diod chwaraeon neu ddiod ailhydradu, neu ddŵr oer.
- Oerwch groen yr unigolyn – defnyddiwch chwistrell neu sbwng â dŵr oer a'u gwyntyllu. Mae defnyddio pecynnau oer wedi'u lapio mewn lliain a'u rhoi o dan y ceseiliau neu ar y gwddf yn effeithiol hefyd.
Ffoniwch 999 os ydych chi neu rhywun arall yn dangos arwyddion o drawiad gwres, gan gynnwys:
- dal i deimlo’n sâl ar ôl gorffwys am 30 munud mewn lle sy’n fwy oer, wedi rhoi cynnig ar ddulliau ar gyfer eich oeri ac wedi yfed hylifau
- tymheredd uchel iawn
- croen poeth sydd ddim yn chwysu ac a allai edrych yn goch (gall hyn fod yn anoddach i'w weld ar groen brown a du)
- curiad calon cyflym
- anadlu’n gyflym neu'n fyr eich gwynt
- dryswch a diffyg cydsymud
- trawiad neu ffit
-
wedi colli ymwybyddiaeth
Gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol