Neidio i'r prif gynnwy

Leah yr 'enghraifft ddisglair' yn cipio coron Gweithiwr Proffesiynol Radiograffeg y Flwyddyn yng Nghymru

7.11.2023

Radiograffydd yn Ysbyty Glan Clwyd, gyda chyfoeth o brofiad ac angerdd am arloesi, yw’r gorau yng Nghymru yn ôl ei chorff proffesiynol.

Dywedodd Leah Cox, radiograffydd adolygu arweiniol o fewn Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru, ei bod hi wedi “synnu a gwirioni” o gael ei henwi yn Weithiwr Proffesiynol Radiograffeg y flwyddyn yng Nghymru gan Gymdeithas y Radiograffwyr.

Golyga hyn y bydd ei henw nawr yn mynd ymlaen i gystadlu am wobr y DU yn San Steffan, Llundain, ar 8 Tachwedd – lle y bydd hi hefyd yn derbyn teitl Cymru.

“Bydd yn rhaid i mi ddod yn ôl oherwydd mae gen i glinig y diwrnod canlynol,” eglurodd. “Mae’n rhaid i mi edrych ar ôl fy nghleifion”.

“Mae’r wobr broffesiynol hon yn golygu llawer, mae pawb eisiau teimlo eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi. Rydw i’n gwerthfawrogi fy nghydweithwyr, felly rwy’n freintiedig i’w derbyn ar ran ein hadran gyfan.”

Mae Llinos, Enillydd Gwobr y Filltir Ychwanegol yn mynd y 'tu hwnt i'r gofyn' i gleifion hŷn sydd wedi profi torasgwrn - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Mewn teyrnged ddisglair, wrth enwebu Leah am y wobr, tanlinellodd rheolwr y gwasanaethau radiotherapi Patricia Evans y priodoleddau proffesiynol a wnaeth ddigon o argraff ar y beirniaid i roi’r blaen i Leah.

Dywedodd hi:  “Mae Leah wedi bod y tu cefn i nifer o welliannau gwasanaeth ac arloesiadau.

“Mae hi’n gwthio’r ffiniau yn gyson i ddysgu ac arloesi drwy weithio y tu hwnt i’r hyn sy’n ddisgwyliedig – bob amser gydag angerdd i roi gofal cleifion wrth wraidd popeth mae hi’n ei gyflawni. 

“Mae Leah yn enghraifft ddisglair o sut gall un person drawsnewid gwasanaeth, yn arddangos holl werthoedd y bwrdd iechyd.”

O ddydd i ddydd swydd Leah yw cynorthwyo cleifion yr effeithir arnynt gan ganserau’r pen a’r gwddf neu golorectol, gan sicrhau eu bod yn derbyn y driniaeth orau bosibl.

Mae ganddi gyfoeth o brofiad ynghylch ceisio gwella’r rheiny sydd angen radiotherapi ar draws Cymru gyfan.

Hi hefyd yw’r unig arweinydd tîm amlddisgyblaethol canser anfeddygol (MDT) (ar gyfer canserau’r pen a’r gwddf) ar draws y Bwrdd Iechyd.

Enillwyr Gwobrau Ymchwil, Trawsnewid, Gwella ac Arloesi sy'n darparu gwasanaeth 'Safon Aur' - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Ar ôl cymhwyso yn 1991, gweithiodd Leah yng Nghanada fel therapydd ymbelydredd yn Nhoronto a Chalgari, yna ar ddychwelyd i’r DU gweithiodd yn Ysbytai Charing Cross, Royal Marsden a Guy’s a St Thomas’, yn Llundain.

Yna gwnaeth y penderfyniad i ymuno â’r tîm radiotherapi yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru a dechrau gwneud gwahaniaeth i fywydau cleifion yn ein rhanbarth.

Mae Leah wedi gweithio gyda meddygon ymgynghorol o Lerpwl ar benwythnosau, wedi iddynt gamu i mewn i gynorthwyo parhau i drin cleifion ar adeg pan oedd prinder difrifol o oncolegwyr.

“Roedd yn rhaid ei wneud,” meddai. “Fe wnaethon ni ein gorau i bontio’r gagendor ond roedd yn waith caled iawn, wrth i gyfeiriadau ddal i gyrraedd ac roedd gennym gapasiti un diwrnod ar y penwythnos yn unig.”

Mae hi hefyd wedi meithrin perthnasau cryf gyda thimau ym Manceinion a Chaerdydd, sy’n golygu bod y broses gyfeirio’n esmwythach i gleifion.  

Mae Leah wedi gweithio ar therapi proton, ffurf ar driniaeth ymbelydredd sy’n anfon pelydrau o egni uchel i dargedu tiwmorau yn fwy manwl nag ymbelydredd pelydr-X.

Hi oedd radiograffydd therapi cyntaf Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru i ddod yn rhagnodwr cyffuriau anfeddygol i helpu pobl i ymdopi â sgil-effeithiau triniaeth ac yn gyfeiriwr anfeddygol ar gyfer delweddu meddygol.

Pâr arobryn yn mynd y filltir ychwanegol i roi cymorth i rai o'r unigolion mwyaf agored i niwed - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Mae Leah wedi gweithio gyda’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), gan gynorthwyo i ddatblygu canllawiau canser y pen a’r gwddf, a gweithiodd fel cyd-ddirprwy arweinydd i Rwydwaith Canser Cymru.  

Parhaodd i fod yn gynghorydd arbenigol NICE ar y pen a’r gwddf, cyn mynd ymlaen i gyd-ysgrifennu a lansio’r llwybrau gorau posibl ar gyfer ei drin.

Mae Leah hefyd wedi gweithio ar lwybr llawdriniaeth robotig traws-eneuol (TORS), sy’n galluogi llawfeddygon i ganfod union leoliadau canserau y tu mewn i’r gwddf, yn lleihau ac weithiau yn dileu’r angen am gemo neu radiotherapi.

Mae rhestr ei chyraeddiadau yn mynd ymlaen, nid y lleiaf trefnu diwrnod addysg canser y pen a’r gwddf cyntaf yng Ngogledd Cymru y llynedd, er mwyn tanlinellu’r holl waith cadarnhaol a wneir gan y tîm amlddisgyblaethol.

Oherwydd adborth hynod gadarnhaol o’r digwyddiad, mae ail ddigwyddiad wedi’i gynllunio y mis hwn.

Crynhodd Patricia Evans rinweddau Leah, pan ddywedodd hi: “Mae Leah wedi bod yn glir ac yn canolbwyntio ar ddod o hyd i atebion a chadw gofal a phrofiad cleifion wrth wraidd popeth y mae hi wedi ei wneud.

“Yn ei hanfod, alla i ddim meddwl am unrhyw un mwy haeddiannol o’r wobr.”

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)