Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llinos, Enillydd Gwobr y Filltir Ychwanegol yn mynd y 'tu hwnt i'r gofyn' i gleifion hŷn sydd wedi profi torasgwrn

Cafodd Llinos Williams, meddyg cyswllt (PA) mewn orthogeriatreg ei henwebu gan yr orthogeriatregydd Vedamurthy Adhiyaman (Adhi).

Mae Llinos yn gweithio gyda Vedamurthy i reoli cleifion hŷn sydd wedi torri asgwrn y glun ac asgwrn y forddwyd.   

Rôl y Meddyg Cyswllt yw helpu i asesu a rheoli’r garfan hon o gleifion.

Fodd bynnag, mae Adhi yn credu bod rôl Llinos wedi ehangu cryn lawer yn ystod y tair blynedd diwethaf.

Dywedodd: “Mae hi wedi mynd i’r afael ag amryw o ddyletswyddau sydd y tu hwnt i’w swydd ddisgrifiad. Mae hi bob amser yn gwenu ac mae’n gwneud ei gwaith heb gwyno. Mae’n bleser ei chael yn y tîm.”

Ers penodi Orthogeriatregydd yn Ysbyty Glan Clwyd yn 2019, mae dangosyddion perfformiad ar gyfer trin pobl hŷn sydd wedi torri asgwrn y glun wedi gwella’n sylweddol yn ôl y gronfa ddata.

Maent wedi symud ymlaen i bwynt lle mae’r arbenigedd bellach yn dangos perfformiad gwell na’r cyfartaledd yng Nghymru, a hynny ar draws meysydd allweddol megis:

  • Asesiad prydlon gan orthogeriatregydd
  • Cleifion yn llai dryslyd
  • Diogelu esgyrn mwy o gleifion, a 
  • Mwy o gleifion yn dychwelyd i'w safle preswylio gwreiddiol

Ychwanegodd Adhi: “Oherwydd ein rheolaeth ragweithiol, mae ein ffigurau deliriwm yn well o lawer na’r cyfartaledd cenedlaethol – nid oedd 84% o’n cleifion yn ddryslyd yn dilyn llawdriniaeth o’i gymharu â 63% o gleifion yn genedlaethol. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth Llinos.

“Mae’r dyletswyddau y mae Llinos wedi mynd i’r afael ȃ nhw, er nad ydynt yn rhan o’i chynllun swydd yn cynnwys siarad â chleifion a theuluoedd am ddiagnosis, prognosis gan gynnwys trafod DNACPR, arwain y rowndiau bwrdd, gwaith cyswllt ynghylch torasgwrn, apwyntiad dilynol 120 diwrnod, cefnogi meddygon sydd newydd eu penodi, ac ati.

“Mae Llinos wedi cymryd yr awenau i gynnal rowndiau bwrdd dyddiol i hwyluso gofal a llif cleifion. Gyda’i phrofiad a’i gwybodaeth, mae hi hefyd yn adolygu cleifion â chyflyrau ar wahân i dorasgwrn morddwydol, ac mae pawb, gan gynnwys y meddygon ymgynghorol a chofrestryddion mewn orthopaedeg yn gofyn am ei chyngor ar faterion meddygol.”

Aeth Llinos i’r afael ȃ phrosiect yn ymwneud ȃ gwella ansawdd ynghylch hyd yr amser nad oedd cleifion yn cael bwyta cyn llawdriniaeth, datgelodd Vedamurthy.

O ganlyniad, gwnaeth Llinos argymhellion ynghylch peidio â gadael cleifion heb fwyd am gyfnod rhy hir.

Oherwydd nad yw’n gallu rhagnodi yn ei rôl, mae Llinos hefyd wedi cynnal ei harolwg cenedlaethol ei hun o Feddygon Cyswllt ac wedi cyhoeddi ei chanfyddiadau a’i hargymhelliad yn y Future Hospital Journal.

Mae’n gobeithio dylanwadu ar reolyddion i gyflymu’r broses er mwyn galluogi meddygon cyswllt i ragnodi. 

Yn ogystal, taflodd Adhi oleuni ar y gwaith y mae Llinos wedi’i wneud wrth helpu graddedigion meddygol rhyngwladol i deimlo eu bod wedi cael croeso yn Ysbyty Glan Clwyd.

Dywedodd: “Gall fod yn heriol ac yn deimlad brawychus pan fyddant yn dechrau yn eu swydd ar y ward. Mae Llinos yn rhoi cymorth gwerthfawr iddynt ac yn eu harwain i gwblhau eu dyletswyddau, yn ogystal â gwneud yn siŵr bod yr holl dasgau’n cael eu cwblhau cyn gadael – hyd yn oed os yw’n golygu treulio oriau maith ar y ward.

“Mae Llinos bob amser yn awyddus i ddysgu, ac mae hi’n trefnu sesiynau addysgu clinigol wythnosol. Gyda’i chraffter i’r anawsterau y mae graddedigion meddygol rhyngwladol yn eu hwynebu, mae Llinos wedi cyfrannu at bapur ynghylch pam mae mwy ohonyn nhw’n cael eu cyfeirio at y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC), sy’n mynd i gael ei gyhoeddi yn y Cyfnodolyn
Medicolegal.”

Yn ogystal ȃ dyletswyddau clinigol, mae Llinos, sydd bob amser mor feddylgar yn dod ȃ theisennau ar benblwyddi cleifion i wneud eu diwrnod yn un arbennig. Yn ystod pandemig COVID-19 byddai’n trefnu galwadau fideo gyda theuluoedd er mwyn helpu’r cleifion i ddathlu pan roedd ymweliadau’n brin.

Byth yn brin o drugaredd at eraill, nawr mae Llinos yn tyfu ei gwallt am flwyddyn er mwyn rhoi ei gwallt yn rhodd i’r Princess Trust.

“Yn syml,” dywedodd Adhi. “Mae Llinos wedi mynd y filltir ychwanegol yn ei rôl er mwyn gwella gofal y cleifion, gyda’i gwybodaeth, ei galluoedd, ei hagwedd gymwynasgar a’i ffordd ddymunol, mae’n gaffaeliad mawr i’r GIG.”

Dywedodd Nick Napier-Andrews, o ID Medical sef noddwr y wobr: “Roedd stori Llinos yn enghraifft wych arall o staff y GIG yn mynd y filltir ychwanegol..

“Llongyfarchiadau iddi am ennill y wobr hon, ynghyd ȃ’r unigolion eraill a ddaeth i’r brig am eu hymdrechion penigamp. Rydym yn falch o fod wedi cefnogi’r wobr hon sy’n wirioneddol arddangos ymdrechion rhagorol staff Betsi Cadwaladr.”

Dywedodd Jez Nash, Prif Weithredwr Centerprise International a noddwr cyffredinol y gwobrau: “Yn ein chweched flwyddyn yn noddi Gwobrau Cyrhaeddiad BIPBC, mae ymrwymiad rhagorol staff y GIG yng Ngogledd Cymru yn parhau i’m rhyfeddu.

“Maent yn arloesol yn eu hymagwedd at ddarparu gofal ac yn dangos tosturi di-baid at eu cleifion a’u cydweithwyr.

“Roedd yn bleser gennym rannu’r achlysur gyda 500 o staff y GIG yn y gwobrau, ac rydym yn falch o allu parhau â’n cysylltiad gyda noson wych yn dathlu eu hymdrechion.

“Llongyfarchiadau enfawr i bawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gwobrau eleni.”