Neidio i'r prif gynnwy

"Gellid ystyried bwydo ar y fron fel triniaeth"

01.04.22

Mae uned y newydd-anedig flaenllaw, sydd wedi gweld cynnydd dramatig mewn cyfraddau bwydo ar y fron, am i famau ystyried bwydo babanod a anwyd cyn amser ar y fron fel “triniaeth”.

Mae uned arbenigol y newydd-anedig Ysbyty Glan Clwyd yn helpu 20% yn fwy o fabanod i ddechrau bywyd gyda buddion iechyd llaeth y fron na’r cyfartaledd cenedlaethol.

Mae newydd gwblhau Cam 1 o Fenter Cyfeillgar i Fabanod UNICEF y DU (BFI) - ac mae wedi ennill cyllid ar gyfer Camau 2 a 3.

Yng ngham cyntaf y cynllun, mae nifer y mamau sydd yn yr uned sy’n bwydo eu babanod ar y fron wedi codi o 17% i 39%.

Yn ogystal, mae nifer y babanod sy'n cael llaeth y fron am y 14 diwrnod cyntaf hollbwysig o fywyd yn 69.4% - mwy nag 20% ​​yn uwch na chyfartaledd Cymru a Lloegr.

Dywedodd uwch ymarferydd nyrsio'r newydd-anedig, Rhian Smith, fod gwaith y tîm yn helpu mamau i weld bwydo ar y fron mewn ffordd wahanol.

Dywedodd hi: “Nid ydym yn selog am fwydo ar y fron ond mae’n bwysig bod mamau’n gwybod am fanteision llaeth y fron i’w babanod.

“Ar gyfer babanod a anwyd cyn amser, gallai gael ei weld fel triniaeth. Mae rhai mamau’n cael trafferth bwydo ar y fron a does dim pwysau na chywilydd yn hynny - a byddan nhw’n cael eu cefnogi ym mha bynnag beth maen nhw’n ei ddewis gan ein staff a gan famau eraill ar yr uned.”

Yn ogystal â throsglwyddo gwrthgyrff hanfodol yn y bwydo cynnar hynny, gall llaeth y fron atal afiechydon fel enterocolitis madru, cyflwr treulio a allai fod yn angheuol i fabanod a enir cyn amser.

Nid yw’r BFI yn ymwneud â hybu llaeth y fron yn unig, mae’n ymwneud â meithrin perthnasoedd agos cariadus â rhieni a’u sefydlu fel partneriaid mewn gofal.

Mae’n rhywbeth sydd ar flaen y gad o ran triniaeth yn uned y newydd-anedig yn yr ysbyty, sy’n gofalu am fabanod sy’n cael eu geni o 26 wythnos ymlaen.

Plant a phobl ifanc Gogledd Cymru i helpu i ddatblygu Siarter Plant - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Gall rhai fod yn yr uned am ychydig oriau yn unig ond gall rhai aros yn hirach ar gyfer problemau mwy cymhleth sy'n gysylltiedig â genedigaethau babanod a enir cyn amser.

Un fam sydd wedi gweld y Fenter Cyfeillgar i Fabanod ar waith yw'r athrawes ysgol uwchradd Ellie Owen, 36 oed o Gyffordd Llandudno.

Dioddefodd o gyneclampsia yn ystod ei beichiogrwydd a rhoddodd enedigaeth i'w mab Harvey yn 31 wythnos ar 22 Chwefror eleni. Roedd yn pwyso 3 pwys 4 owns.

Bum wythnos ar ôl iddo gyrraedd roedd Harvey ar ocsigen ac yn cael ei fwydo trwy diwb ond roedd ei fam yn tynnu llaeth iddo ac yn awyddus i fwydo ar y fron.

Dywedodd Ellie ei bod wedi derbyn cefnogaeth heb ei ail gan staff yr uned - ond hefyd gan ei chyd-famau.

Dywedodd hi: “Maen nhw wedi gosod yr ystafell tynnu llaeth mor dda, ni allai hyd yn oed yr unigolyn mwyaf diog fethu â dilyn eu cyfarwyddiadau.

“Ond mae’r awyrgylch yno i annog mamau i gefnogi ei gilydd. Rydym yn teimlo'n gyfforddus yma."

Dechreuodd y gefnogaeth honno o enedigaeth Harvey, pan oedd ganddi deimladau o euogrwydd am ei gyrhaeddiad cynnar.

“Roedd yn sioc i’r system,” meddai Ellie. “Rydych chi'n teimlo'n euog oherwydd bod eich corff yn eu methu.

Bondio amser bath i Harvey gyda'i fam Ellie Owen yn Ysbyty Glan Clwyd

“Mae dull y staff yma wedi bod yn gwbl ddi-fai, maent yn rhoi enw da i'r sector. Daethant i gwrdd â mi cyn fy nhriniaeth Cesaraidd, i ddeall fy nymuniadau ac fe wnaethant dawelu meddwl fy mhartner a minnau am ddatblygiad Harvey.

Dywedodd Ellie pan gyrhaeddodd Harvey fod staff yn ei hannog i fod yn rhan o'i ofal.

“Mae’r anogaeth gan y meddygon a’r nyrsys yn anhygoel,” meddai. “Mae’r cydlynu rhwng y tîm yn ddi-dor - mae'n rhaid eu bod nhw'n delepathig. Maent yn dilyn popeth rydych chi'n ei ddweud ac yn tawelu'ch meddwl.

“Rwy’n deall sut mae’n rhaid i hyn gael ei arwain gan gleifion,” meddai Ellie. “Ni allaf ddweud bod unrhyw beth angen ei wella - mae'n anhygoel.”

I gael rhagor o fanylion am Fenter Cyfeillgar i Fabanod UNICEF ewch i: Menter Cyfeillgar i Fabanod UNICEF.