Neidio i'r prif gynnwy

Diagnosis diabetes dyn Prestatyn yn annog trawsnewidiad sy'n newid bywyd

Mae dyn o Sir Ddinbych a oedd yn ofni ei fod wedi ‘bwyta ei hun i fedd cynnar’ ar ôl cael diagnosis o ddiabetes math 2 wedi cael trawsnewidiad a newidiodd ei fywyd.

Dywed Gary Jones, o Brestatyn, ei fod wedi cael bywyd newydd ar ôl colli 3.5 stôn mewn dim ond saith mis ac wedi gwella o’r diabetes, gyda chymorth meddyginiaeth a chefnogaeth gan ei feddygfa leol.

 Mae'r dyn 50 oed yn rhannu ei stori mewn ymgais i helpu eraill sydd dros bwysau, neu sydd wedi cael diagnosis diweddar o ddiabetes math 2

Mae diabetes yn gyflwr sy'n achosi i lefelau glwcos yn y gwaed fynd yn rhy uchel. Mae dau brif fath o ddiabetes - math 1 a math 2. Mae math 2, sydd fwyaf cyffredin, yn digwydd pan nad yw'r corff yn cynhyrchu digon o inswlin i weithio'n iawn, neu pan nad yw celloedd y corff yn ymateb i inswlin. Mae’n aml yn datblygu, ond nid bob amser o ganlyniad i ordewdra a diffyg ymarfer corff.

Gall diabetes math 2 heb ei drin waethygu'n raddol - gan achosi problemau iechyd hirdymor difrifol, ond gellir ei reoli a hyd yn oed ei wrthdroi drwy wella arferion bwyta, colli pwysau a bod yn fwy egnïol yn gorfforol. Efallai y bydd angen ystod o feddyginiaethau hefyd.

Cafodd Gary ddiagnosis o’r cyflwr ym mis Tachwedd 2020, pan roedd yn pwyso 19.1 stôn ar ôl rhoi pwysau dros nifer o flynyddoedd.

Fe eglurodd, “roeddwn i'n gwybod bod rhywbeth o'i le oherwydd roeddwn wedi bod yn yfed llawer a llawer o ddŵr, pasio llawer o ddŵr ac ennill llawer o bwysau yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf.”

“Roedd fy lefelau glwcos yn y gwaed yn 96 mmol / mol, sy’n uchel iawn, ond ni ddaeth yn sioc enfawr i mi oherwydd fy mod i wedi colli fy hun amser maith yn ôl.“Gall bwyd fod yn ffrind gorau i chi weithiau, yn enwedig os ydych chi'n unig, ond gall hefyd fod yr elyn gwaethaf i chi.

“Pan gefais i ddiagnosis, roedd gen i gymaint o gywilydd ac roeddwn i'n meddwl fy mod i wedi siomi fy hun oherwydd fy mod i allan o siâp a gymaint dros bwysau. Roeddwn i'n teimlo fy mod i wedi bwyta fy hun i mewn i fedd cynnar ac ni allwn ddweud wrth fy nheulu na ffrindiau am y diagnosis. "

Gyda chefnogaeth Julie Lewis, Ymgynghorydd Nyrsio ym Meddygfa Prestatyn Iach, sy’n cael ei reoli gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, cafodd Gary feddyginiaeth ac anogaeth i wneud newidiadau i'w ffordd o fyw er mwyn rheoli ei lefelau glwcos yn y gwaed.

“Nid wyf erioed wedi clywed am ddiffyg calorïau o’r blaen a dechreuais edrych ar fwyd mewn gwahanol ffyrdd, bwyta’n iach a gwneud ryseitiau blasus gyda bwydydd newydd nad oeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn i’n eu bwyta, er mwyn fy helpu i golli pwysau. Dechreuais hefyd gerdded dros 10km bob diwrnod.

“Roeddwn i'n gwybod bod yn rhaid i mi sicrhau bod y swm cywir o rai bwydydd yn mynd i mewn i'm corff a fy mod yn cael y swm cywir o ymarfer corff i ddod â fy lefelau ngwaed i lawr.

“Ar ôl mis, roedd fy nghyfrif gwaed wedi gostwng i 72 ac roeddwn i wedi colli hanner stôn mewn pwysau. Roeddwn i'n gwybod fy mod yn gwneud rhywbeth yn iawn a fy mod ar y trywydd iawn.

“Dau fis yn ddiweddarach, ym mis Chwefror 2021, fe wnaeth Julie fy ffonio tri diwrnod ar ôl i mi gael prawf gwaed a gofyn a oedd gen i hances yn barod. Pan ofynnais pam, dywedodd fod fy nghyfrif gwaed wedi dod i lawr i 38, ac mae unrhyw beth o dan 42 yn ddigon i wrthdroi’r diabetes. Fe wnes i ddechrau crio ar y ffôn.

“Erbyn mis Mai, roeddwn i wedi dod oddi ar bob meddyginiaeth ac wedi cynnal y lefelau arferol o glwcos yn fy ngwaed i gadw'r diabetes draw. Rwyf wedi mynd o bwyso dros 19 stôn i 15.5 stôn. Erbyn hyn mae gen i fwy o egni, rwy’n cysgu'n well, a dwi'n caru bywyd.

“Rwyf bob amser wedi bod yn falch o deulu a ffrindiau, ond byth fy hun. Roeddwn i bob amser yn ddyn brasterog ar y tu allan ac yn ddiflas y tu mewn, nawr rwyf mewn gwirionedd yn hapusach ac yn iachach y tu mewn a'r tu allan.

 “Mae gen i rywfaint o bwysau i’w golli o hyd, ond mae fy niabetes dan reolaeth, a dyna oedd y peth pwysicaf i’w drechu.

“Mae Julie wedi newid fy mywyd ac nid yw’r gefnogaeth a gefais ganddi wedi bod yn ddim byd ond cadarnhaol. Nid oeddwn erioed yn teimlo fy mod yn cael fy marnu ac roeddwn i'n gwybod y gallwn i gysylltu â hi bob amser pe bai gen i unrhyw gwestiynau neu pe bai arnaf angen cefnogaeth.

 “Os gallaf helpu unrhyw un gyda’r panig a’r embaras y gallent fod yn ei deimlo ar ôl cael diagnosis o ddiabetes math 2 yna fe wnaf. Dylai pobl siarad amdano a bod yn agored bod angen ychydig o help arnynt hwy, oherwydd mae cymaint o bobl allan yna a all eich helpu chi. ”

 Cymru sydd â'r nifer uchaf o achosion o ddiabetes yn y DU gyda mwy na 209,000 o bobl yn byw gyda'r cyflwr. Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod gan 65,501 o bobl eraill yng Nghymru ddiabetes math 2, ond heb gael diagnosis eto, tra gallai 580,000 o bobl eraill fod mewn perygl o ddatblygu’r cyflwr.

 Dywedodd Julie Lewis, yr Ymgynghorydd Nyrsio sydd wedi cefnogi Gary i wella ei ddiabetes :

 “Mae Gary wedi bod ar daith ryfeddol i sicrhau gwellhad. Nid yw wedi gweld hwn fel diet cyflym, ond fel dewis o ffordd o fyw. Mae'n sicr yn elwa o'i ymdrechion, yn gorfforol ac yn seicolegol. Rwy'n dweud ei ymdrechion gan mai ef sydd wedi gwneud yr holl waith caled. Ychydig iawn o fewnbwn a gefais heblaw cynnig opsiynau, arweiniad ac anogaeth.

“Mae profiad Gary yn adlewyrchu nifer cynyddol o bobl sydd mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2, neu sydd eisoes wedi cael diagnosis o ddiabetes Math 2 sy'n gofyn am gefnogaeth gyda rheoli pwysau.

“Mae defnyddio colli pwysau fel triniaeth effeithiol ar gyfer diabetes Math 2 yn casglu momentwm mewn ymarfer clinigol.

“Fy nod yw hyrwyddo gwell integreiddiad rhwng arbenigwyr a gofal cychwynnol fel bod mynediad at addysg, cefnogaeth a thriniaethau effeithiol ar gyfer cyflyrau mor gyffredin â diabetes ar gael yn rhwydd o fewn gofal cychwynnol i'r unigolyn sy'n byw gyda'r cyflwr hwn.

"Dyma rai dolenni defnyddiol at addysg o ansawdd uchel ar gyfer diabetes ac ar gyfer gwasanaethau rheoli pwysau yn ein bwrdd iechyd:

 Cliciwch ar y dolenni isod i gael mynediad at fideos gwybodaeth ar gyfer pobl sy’n byw gyda diabetes yng Nghymru:

Cyn-Diabetes: www.medic.video/w-pre

Diabetes Math 1: www.medic.video/w-type1

Diabetes Math 2: www.medic.video/w-type2

Diabetes mewn beichiogrwydd: www.medic.video/wgest