Neidio i'r prif gynnwy

Mandy Hughes

8.11.2023

Dechreuodd Mandy ei gyrfa 34 blynedd yn ôl fel gweithiwr cymorth gofal iechyd mewn uned asesu iechyd meddwl a gofal seibiant.

Derbyniodd secondiad i wneud rhagor o waith i ddysgu oedolion ac fe enillodd radd anrhydedd dosbarth cyntaf cyn ymgymryd â’r rôl yn yr adran achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd (ED).

Ymhen 18 mis, llwyddodd Mandy i sicrhau contract 28 awr gyda’r tîm nyrsio cymunedol, gan gadw ei 10 awr gyda’r adran achosion brys.

Roedd yn “wych” gallu trosglwyddo fy sgiliau rhwng y ddwy rôl, meddai.

Symudodd Mandy i weithio’n llawn amser gyda’r tîm nyrsio cymunedol ac fe enillodd ei Chymhwyster Ymarfer Arbenigol (SPQ) cyn cael ei dyrchafu’n rheolwr tîm o fewn y tîm nyrsio cymunedol yn Abergele.

Cafodd ei gwaith ei gydnabod yng Ngwobrau mawreddog y Nursing Times yn 2020, lle cafodd ei choroni’n Rheolwr Tîm y Flwyddyn.

Ochr yn ochr â datblygiad ei gyrfa, mae Mandy wedi cydnabod ers tro bod angen cynrychiolaeth a chymorth i nyrsys, ac mae bellach yn eiriolwr nyrsio, yn darparu cymorth cymheiriaid i’w chydweithwyr yn y maes nyrsio ardal.

Mae Mandy yn un o ddau weithiwr proffesiynol amser llawn sydd wedi’u hyfforddi i ddarparu ac eirioli ar gyfer y model A-EQUIP a gyflwynwyd am y tro cyntaf yn 2016 ar gyfer y maes bydwreigiaeth.

Mae'r rôl yn cefnogi'r diwylliant o arweinyddiaeth dosturiol ac mae’n cefnogi staff trwy welliant parhaus.

Y nod yw meithrin gwydnwch personol a phroffesiynol – a chefnogi staff trwy ddatblygiad proffesiynol.

“Fel tîm, rydym wedi mynd i’r afael ȃ 650 o sesiynau adferol, clinigol a goruchwyliol ar draws Betsi Cadwaladr,” meddai. “Mae’n rhoi cyfle i staff edrych yn ôl a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi.

“Mae llawer o’r gwaith rydym yn ei wneud yn cefnogi’r nyrsys sydd newydd gymhwyso yn ystod y cyfnod o drawsnewid o addysg i ymarfer clinigol.

“Rydym wedi datblygu rhaglen hyfforddi ar gyfer goruchwyliaeth glinigol i nyrsys ardal, a fydd yn gwella recriwtio ac yn cadw gweithwyr a bydd yn cynyddu cymhelliant ac atebolrwydd.

“Mae’r cynllun yn gwella lles ac yn lleihau salwch, yn ogystal ȃ chynyddu boddhad swydd, ynghyd ȃ hyrwyddo cyfathrebu a diwylliant lle mae pobl yr ydym yn gofalu amdanynt yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Mae’n rhywbeth y dylid ei ehangu i’r holl weithwyr nyrsio yn ôl Mandy. 

Mae hi wrth ei bodd ei bod wedi’i gwobrwyo â’r teitl Nyrs y Frenhines. Dywedodd: “Mae’n rhywbeth rydw i wedi bod ei heisiau erioed. Mae’n broses mor hir ac yn dangos gwerth yr hyn a wnawn yn y gymuned – a sut rydym yn gwneud gwahaniaeth.

“Credaf ei bod yn bluen yn het Betsi fod cymaint o nyrsys wedi cipio’r wobr hon, gan mai dim ond tua 2,500 sydd ȃ dosbarthiad Nyrs y Frenhines yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon”.