Neidio i'r prif gynnwy

Dewch i gwrdd â thair nyrs o'r un tîm cymunedol sydd wedi'u 'hanrhydeddu' i ymuno ag un grŵp elitaidd

8.11.2023

Mae tair nyrs o’n tîm nyrsio cymunedol y Gymuned Iechyd Integredig (IHC) wedi ymuno ȃ grŵp elitaidd ar draws Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr sy’n galw eu hunain yn Nyrsys y Frenhines. 

Cafodd y nyrsys cymunedol yr anrhydedd prin hwn yn ddiweddar, ar ôl ymgeisio ar gyfer Sefydliad Nyrs y Frenhines (QNI) a mynd i’r afael ȃ phroses asesu treth.

Mae’n hynod nodedig i weld un o’n nyrsys yn derbyn y gydnabyddiaeth hon, ond mae cael tair nyrs, o’r un tîm ardal, yn yr un flwyddyn, yn ymuno â charfan o ryw 2,500 o Nyrsys y Frenhines yn gamp anhygoel.

Dyma’r nyrsys:

  • Nichola Hughes, Pennaeth Nyrsio ar gyfer Gofal Canolraddol a Nyrsio Arbenigol o fewn y Gymuned Iechyd Integredig (IHC).    
  • Lisa Orhan, Metron Gymunedol ar gyfer Sir Ddinbych.
  • Mandy Hughes, Hyfforddwr Cefnogaeth i Gymheiriaid o fewn Tîm Nyrsio Cymunedol Ardal y Canol.

Dywedodd Angela Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Cael eich dewis yn Nyrs y Frenhines yw’r gydnabyddiaeth orau o ymrwymiad, ymroddiad ac effaith y nyrs gymunedol. O ran y boblogaeth y maent yn eu gwasanaethu a’r cydweithwyr maent yn gweithio gyda nhw.

“Mewn cyfnod pan fo’r gwasanaeth iechyd dan bwysau eithriadol, mae’r gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud gan nyrsys o fewn ein cymunedau yn mynd yn angof yn aml.

“Gobeithio y bydd y gydnabyddiaeth a ddaw yn sgil yr anrhydedd hon, a’r gwaith y maent wedi’i wneud i hybu delwedd a phroffil nyrsio cymunedol, yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o nyrsys a gweithwyr cymorth gofal iechyd i ymuno â ni.

“Ni allwn fod yn fwy balch i alw’r tair merch ryfeddol hyn yn gydweithwyr i mi, ac rwy’n eu llongyfarch ar eu llwyddiant - rwy’n llongyfarch pob nyrs sydd wedi cipio’r teitl hwn.”

Mae teil Nyrs y Frenhines (QN) ar gael i nyrsys unigol sydd wedi dangos lefel uchel o ymrwymiad i ofal cleifion ac ymarfer nyrsio.

Mae nyrsys, ymwelwyr iechyd a bydwragedd sydd ȃ phum mlynedd o brofiad yn gweithio yn y maes gofal cymunedol/sylfaenol a gofal cymdeithasol yn gymwys i ymgeisio.

Mae teitl Nyrs y Frenhines yn galluogi deiliaid i gael mynediad at rwydweithiau cymorth proffesiynol, rhaglenni datblygu a bwrsarïau – ac mae'n gydnabyddiaeth ffurfiol o ymrwymiad yr unigolyn i wella gofal cleifion.

Sefydlwyd Nyrs y Frenhines gan y Frenhines Victoria, ac o’r dechrau y mae wedi’i noddi gan Frenhines, hyd yn oed pan mai Brenin sydd ar yr orsedd.

Pan fu farw Mam y Frenhines yn 2022, daeth y Frenhines Elizabeth 11 yn noddwr. Yn sgil ei marwolaeth y llynedd, aeth y rôl dan sylw i’r Frenhines Camilla, Cydweddog y Brenin.

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)