Neidio i'r prif gynnwy

Tu allan i Oriau

Nod y rhaglen yw gwella’r gwasanaeth y tu allan i oriau i gleifion Strôc, gan gynnwys yr amser y mae’n ei gymryd i gleifion gael sgan CT, derbyn triniaeth thrombolysis, a chael mynediad at welyau a staff strôc arbenigol. 

Bydd y meysydd canlynol yn rhan o wella’r gwasanaeth y tu allan i oriau: 

  • Diagnosis – trwy gael mynediad gwell at sganiau CT (gwelliant o 20% yn nifer y cleifion sy’n cael CT mewn awr) 
  • Triniaeth- trwy fynediad at thrombolysis yn gynt (gwelliant o 20% yn yr amseroedd drws i nodwydd) 
  • Adferiad – Trwy fynediad gwell at welyau strôc a staff strôc arbenigol (gwelliant o 25% yn y nifer y cleifion a dderbynnir i’r Uned Strôc Lym o fewn pedair awr ar ôl cyrraedd).