Neidio i'r prif gynnwy

Datblygu Ysbyty Brenhinol Alexandra

22.03.2024

Ers i ni ddatblygu ein hachos busnes llawn cychwynnol i ailddatblygu Ysbyty Brenhinol Alexandra yn Y Rhyl, mae costau cynyddol deunyddiau, ynghyd ag effeithiau'r pandemig byd-eang a'r dirywiad economaidd dilynol wedi golygu nad yw'r cynllun gwreiddiol yn fforddiadwy mwyach.

Er y gallai fod wedi ymddangos i aelodau'r cyhoedd bod y prosiect wedi'i roi o'r neilltu, y tu hwnt i'r llenni mae staff wedi bod yn gweithio'n galed i ddatblygu opsiynau newydd i wella a gloywi gwasanaethau ar y safle.

Yn y cyfamser, gwnaeth ychydig o newidiadau i'r ffordd yr ydym yn gweithio a sut y caiff gwasanaethau eu cyflunio ganiatáu i ni hefyd edrych ar y prosiect yn wahanol.

Ni fu erioed unrhyw newid i'n hymrwymiad i gynnig ysbyty cymunedol gwell a mwy datblygedig ar gyfer pobl Gogledd Sir Ddinbych.

Ddydd Iau, 28 Mawrth, caiff opsiynau diwygiedig eu cyflwyno gerbron cyfarfod llawn o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn Venue Cymru, Llandudno

Yn dilyn y cyfarfod hwn, rydym yn bwriadu rhannu'r arfarniad opsiynau llawn yr ydym wedi'i gynnal gyda Llywodraeth Cymru ac i ofyn am ei chaniatâd i lunio achos busnes llawn ar gyfer y cynllun a ffefrir gennym ni.

Mae prif elfennau'r opsiynau newydd, yn cynnwys:

 

  • Darparu gwasanaethau newydd, gan gynnwys gwelyau ac Uned Mân Anafiadau ac Anhwylderau (MIAU) mewn adeilad newydd
  • Mwy o weithio integredig rhwng timau iechyd a gofal cymdeithasol
  • Presenoldeb cryfach o ran y Trydydd Sector ar y safle
  • Rhaglen o welliannau seilwaith i'r adeiladau presennol, a fydd yn fuddiol i staff ac ymwelwyr â'r safle a'i gynnal ymhell i'r dyfodol
  • Cadw adeiladau Glan Traen fel rhan o'r gwaith dylunio
  • Datrysiad addas i barcio ceir ar gyfer staff ac ymwelwyr ar y safle, gan weithio gyda'n partneriaid mewn awdurdodau lleol

 

Dywedodd Dr Chris Stockport, cyfarwyddwr gweithredol trawsnewid a chynllunio strategol a'n huwch swyddog cyfrifol ar gyfer y datblygiad: "Gwnaed llawer o waith i gyrraedd y cam hwn ac rydw i wir yn credu ein bod ni wedi dod o hyd i'r datrysiadau mwyaf fforddiadwy, a fydd yn cynnig gofal sy'n well o lawer mewn amgylchedd sy'n addas at ei ddiben.

"Er mai dechrau'r broses yw hon, rydw i'n teimlo'n hyderus ein bod wedi datblygu syniad cyraeddadwy ar gyfer pobl Gogledd Sir Ddinbych a rhywbeth a gaiff ei werthfawrogi fel ased go iawn i'r gymuned.

"Gan weithio gyda'n partneriaid yng Nghyngor Sir Ddinbych ac yn y Trydydd Sector, rydym yn credu y bydd y cynigion hyn yn cyflwyno gofal gwell, yn agosach at y cartref ac yn helpu i leddfu rhywfaint o'r pwysau y mae Ysbyty Glan Clwyd yn ei wynebu."