Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Gwella Strôc

Cymeradwywyd y Rhaglen Gwella Strôc gan y Bwrdd Iechyd ym mis Mawrth 2021 ac mae wedi derbyn dros £3 miliwn i wella a datblygu gwasanaethau strôc yng Ngogledd Cymru.

Bydd y cyllid yn cefnogi pedwar prif amcan y cynllun sef:

  • Gwella gwasanaethau atal strôc ac ymyrraeth gynnar
  • Sefydlu unedau adfer cymunedol cleifion mewnol arbenigol strôc
  • Gweithredu gwasanaeth Rhyddhau Cynnar â Chymorth (ESD)
  • Cryfhau gwasanaethau llym presennol

Bydd y rhaglen yn datblygu gwasanaethau strôc modern sy’n bodloni’r Canllawiau Cenedlaethol ar gyfer strôc a chanllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ar Ffibriliad Atrïaidd (AF).

Yn 2017, comisiynodd y Bwrdd Iechyd adolygiad o’r Llwybr Strôc gan Goleg Brenhinol y Meddygon (RCP). Nododd yr adolygiad hwnnw argymhellion a thynnodd sylw at gyfleoedd i wella o ran y cyfnod llym, yn enwedig o ran cyfraddau thrombolysis, ac o ran cymorth therapiwtig i gleifion.

Mae’r 72 awr gyntaf ar ôl strôc yn gofyn i’r asesiad, diagnosis a chychwyn ar driniaeth a ddarperir gan staff arbenigol i ddigwydd yn brydlon.

Mae’r cynllun strôc yn mynd i’r afael â sawl maes pwysig gan gynnwys:

  • Gwella iechyd poblogaeth Gogledd Cymru
  • Gwasanaethau Adfer Integredig o ansawdd uchel
  • Gofal ysbyty rhagorol
  • Gofal yn nes at y cartref drwy Ryddhau Cynnar â Chymorth (ESD)
Atal Strôc

Bydd model atal strôc newydd yn cael ei roi ar waith, sy’n canolbwyntio ar wella prosesau ffibriliad atrïaidd (AF), rhythm calon annormal mewn cleifion, a dulliau monitro cadarn o ran y bobl hynny sydd â’r cyflwr

Canolfannau Adfer Strôc

Bydd y Rhaglen Gwella Strôc yn agor tair canolfan adfer newydd ar draws Gogledd Cymru, i gleifion nad oes angen gofal meddygol arbenigol arnynt mewn ysbytai llym mwyach, ond sydd angen adferiad strôc na ellir ei ddarparu gartref o hyd.

Rhyddhau Cynnar â Chymorth (ESD)

Mae Rhaglen Gwella Gwasanaethau Strôc wedi cyflwyno gwasanaeth Rhyddhau'n Gynnar â Chymorth (ESD), y cyntaf yng Ngogledd Cymru, a fydd yn helpu cleifion i wella gartref, yn hytrach nag yn yr ysbyty neu mewn lleoliad clinigol.

Tu allan i Oriau

Nod y rhaglen yw gwella’r gwasanaeth y tu allan i oriau i gleifion Strôc, gan gynnwys yr amser y mae’n ei gymryd i gleifion gael sgan CT, derbyn triniaeth thrombolysis, a chael mynediad at welyau a staff strôc arbenigo