Mae gennym dair Canolfan Adsefydlu Strôc ar draws Gogledd Cymru ar gyfer cleifion lle nad oes bellach angen triniaeth arbenigol am strôc mewn ysbyty acíwt, ond lle bod dal angen gwasanaeth adsefydlu strôc na ellir ei gynnig gartref.
Cefnogir y canolfannau gan ystod lawn o staff arbenigol amlddisgyblaethol yn cynnwys Ffsiotherapyddion, Nyrsys, Meddygon, Seicolegwyr, Therapyddion Iaith a Lleferydd a Therapyddion Galwedigaethol er mwyn sicrhau bod gan gleifion y siawns orau o adferiad da yn dilyn strôc.
Lleolir y canolfannau adsefydlu ym mhob un o ardaloedd Cymuned Iechyd Integredig y Bwrdd Iechyd:
· Gorllewin - Ysbyty Eryri yng Nghaernarfon
· Y Canol – Ysbyty Cyffredinol Llandudno
· Dwyrain – Ysbyty Cymuned Glannau Dyfrdwy
Anogir cleifion i gymryd rhan mewn gweithgareddau ac ymarferion a gynlluniwyd i hyrwyddo adferiad ac annibyniaeth, yn cynnwys tasgau hunanofal dyddiol, cerdded a chyfathrebu a thasgau gwybyddol – y deellir eu bod i gyd yn gwella’r siawns o adferiad ar ôl strôc.
Agorodd y canolfannau yn 2022 ac yn gynnar yn 2023 i roi’r cyfle gorau i bobl sydd wedi dioddef strôc wella ac addasu o fewn yr amgylchedd modern gorau posibl.
Darperir adsefydlu arbenigol integredig i gleifion mewnol yn y gymuned mewn lleoliad sy’n canolbwyntio ar adsefydlu ym mhob un o’r tair ardal ar draws y Bwrdd Iechyd. Er bod y rhain yn dri lleoliad ar wahân, byddant yn gweithio’n agos fel gwasanaeth integredig fesul ardal ac ar draws Gogledd Cymru.
Caiff adsefydlu ei gydnabod yn eang fel rhan hanfodol o adferiad ar ôl strôc, gan roi manteision iechyd a gofal cymdeithasol i gleifion yn y tymor hwy.
Cefnogir y canolfannau gan ystod eang o staff amlddisgyblaethol dros saith niwrnod er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael y siawns orau o adferiad yn dilyn strôc. Mae hyn yn cynnwys therapydd ymgynghorol ym mhob uned, sy’n gyfrifol am ddatblygu a gweithredu’r gwasanaeth adsefydlu’n seiliedig ar therapi.