Neidio i'r prif gynnwy

Helpwch ni i ddiweddaru ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol

Mae'r arolwg hwn bellach ar gau

Rhwng 15 Medi a 27 Hydref, fe wnaethoch helpu ni i siapio ein cynllun trwy rannu eich profiadau a’ch sylwadau ar ein nodau a’n blaenoriaethau, diolch yn fawr. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, anfonwch e-bost.


Mae eleni wedi bod yn un o’r blynyddoedd mwyaf heriol i ni, yn ddiamheuaeth. Mae pandemig byd-eang Covid-19 wedi effeithio ar fywydau pawb ac mae llawer ohonom ni wedi colli aelodau’r teulu a ffrindiau. Mae’n staff ni wedi gweithio’n ddiflino mewn ymateb i’r pandemig. Mae sefydliadau ac unigolion eraill wedi gweithio’r un mor galed i amddiffyn ein cymunedau rhag effaith y feirws. 

Tarfwyd ar lawer o’n gwasanaethau gofal wedi’i gynllunio ac rydym ni wedi gorfod newid y modd rydym ni’n darparu gwasanaethau eraill.Mae’r rhaglen frechu yn cynnig gobaith y medrwn ni ddechrau fyw ein bywyd gyda llai o gyfyngiadau fel o’r blaen.