Neidio i'r prif gynnwy

Byw'n Iach, Aros yn Iach

Mae'r arolwg hwn bellach ar gau

Rhwng 15 Medi a 27 Hydref, fe wnaethoch helpu ni i siapio ein cynllun trwy rannu eich profiadau a’ch sylwadau ar ein nodau a’n blaenoriaethau, diolch yn fawr. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, anfonwch e-bost.


Gwnaethom dreulio sawl mis yn ystod 2017 yn trafod beth ddylai ein blaenoriaethau ni fod. Buom yn trafod â chleifion, gofalwyr a chynrychiolwyr y gymuned, yn ogystal â’n staff a sefydliadau partner. Mae’r hyn a ddywedoch wrthym ni wedi bwydo i mewn i’n strategaeth hir dymor, Byw'n Iach, Aros yn Iach, a gynhyrchwyd yn 2018.

Ers i ni lunio ein strategaeth tymor hir mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cymru Iachach: Ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae hwn yn nodi’r uchelgais i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol weithio’n agosach â’i gilydd, i gadw pobl yn iach a darparu gwasanaethau wedi’u teilwra’n well at anghenion cymunedau. Rydym ni am i’n cynllun ni gyfateb i’r uchelgais hwn. 

Rydym wedi bod yn gweithio’n agosach mewn partneriaeth gydag Awdurdodau Lleol, gwasanaethau cyhoeddus eraill, y trydydd sector a phobl i gefnogi iechyd a lles.  Gallwn wneud mwy ac mae angen i gydweithio fod yn ffordd arferol o wneud busnes.

Ein nodau tymor hir  

Yn ogystal â sicrhau ein bod ni’n gweithio gyda’n gilydd i gyflawni Cymru Iachach, rydym ni’n dymuno gwirio a ydi’r blaenoriaethau gwreiddiol a gynigiwyd gennym ni’n parhau’n berthnasol. Roedd Byw'n Iach, Aros yn Iach yn disgrifio ein nodau o ran iechyd a llesiant, sef:   

  • gwella iechyd a llesiant corfforol, emosiynol a meddyliol i bawb
  • targedu ein hadnoddau at y bobl sydd eu hangen fwyaf a lleihau anghydraddoldebau
  • cefnogi plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd
  • gweithio mewn partneriaeth i gefnogi pobl – unigolion, teuluoedd, gofalwyr, cymunedau – i ofalu am eu llesiant eu hunain
  • gwella diogelwch ac ansawdd yr holl wasanaethau
  • parchu pobl a’u hurddas
  • gwrando ar bobl a dysgu o’u profiadau nhw

Mae ein dogfen drafod yn rhoi gwybodaeth bellach ar ein nodau yn y tymor hir, blaenoriaethau i’w gweithredu a sut y gallwch chi helpu i siapio’r rhain ar gyfer y dyfodol.

Bydd gwybodaeth hawdd ei darllen a BSL yn cael eu huwch-lwytho yn fuan, yn y cyfamser os hoffech gael gwybodaeth ar ffurf hygyrch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, anfonwch ebost.