Neidio i'r prif gynnwy

Cydraddoldeb

Mae'r arolwg hwn bellach ar gau

Rhwng 15 Medi a 27 Hydref, fe wnaethoch helpu ni i siapio ein cynllun trwy rannu eich profiadau a’ch sylwadau ar ein nodau a’n blaenoriaethau, diolch yn fawr. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, anfonwch e-bost.


Mae’r pandemig wedi gwaethygu anghydraddoldebau i bobl â nodweddion gwarchodedig a’r rhai dan anfantais economaidd. Mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni’n mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn, lleihau’r rhwystrau i gael gwasanaethau a gwneud addasiadau rhesymol i gefnogi gwell iechyd. Nodir ein hamcanion cydraddoldeb yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol y Bwrdd Iechyd.

Yn Byw'n Iach, Aros yn Iach,  cytunwyd ar hybu cydraddoldeb a hawliau dynol fel egwyddor sylfaenol ar gyfer cyflawni ein nodau tymor hir. Mae hyn yn golygu:

  • Adnabod a mynd i’r afael â rhwystrau o ran mynediad i wasanaethau
  • Darparu gwasanaethau sy’n briodol yn ddiwylliannol
  • Gwneud addasiadau rhesymol a gweithio tuag at wella canlyniadau i bobl o grwpiau nodweddion gwarchodedig a’r rhai â phrofiadau personol o anghydraddoldebau amlwg.

Mae’n amlinellu’r meysydd i ganolbwyntio ar ein hamcanion cydraddoleb yn ein Nghynllun Cydraddoldeb Strategol, er enghraifft, gweithredu’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol: Cymru Wrth-hiliol. Rydym ni’n gwybod fod Covid-19 wedi gwaethygu llawer o anghydraddoldebau i bobl â nodweddion gwarchodedig a’r rhai dan anfantais economaidd a chymdeithasol. Dengys y dystiolaeth fod pobl hˆyn, pobl o gefndiroedd lleiafrif ethnig a rhai pobl anabl wedi cael eu heffeithio’n benodol. Bellach mae’n bwysicach nag erioed fod ystyriaethau cydraddoldeb ac economaidd a chymdeithasol yn cael eu rhoi wrth graidd ein gwaith a’n bod ni’n creu cyfleoedd i’ch llais chi ddylanwadu ar ein cynlluniau ni.