Neidio i'r prif gynnwy

Synau Lleferydd

Synau mewn Lleferydd

Mae lleferydd yn cynnwys gwahanol synau, sy'n cael eu creu yng ngwahanol rannau'r geg, mewn ffyrdd gwahanol. Synau lleferydd yw'r synau y byddwn yn eu dweud a'u clywed mewn geiriau, nid y llythrennau y gallwch eu gweld wrth eu darllen neu eu hysgrifennu.

Mae angen i blant glywed y synau mewn geiriau, cofio'r synau a'u dweud yn glir. Efallai y bydd rhai plant sydd ag anawsterau o ran synau lleferydd yn gwneud camgymeriadau neu'n datblygu eu synau'n arafach na phlant eraill.

Sut gallwch chi helpu

  • Sicrhewch y gall eich plentyn weld eich wyneb, fel y gall weld symudiadau eich ceg ar gyfer yr holl synau rydych chi'n eu defnyddio.
  • Sicrhewch fod cyn lleied ag y bo modd o synau cefndir wrth siarad â'ch plentyn. Bydd yn anodd iawn i'ch plentyn glywed synau'n eglur os bydd llawer o synau ar draws ei gilydd.
  • Os na fyddwch yn deall rhywbeth y bydd y plentyn wedi'i ddweud, peidiwch â smalio eich bod wedi deall. Ailadroddwch unrhyw rannau rydych wedi'u deall. Dylai hyn annog eich plentyn i ailadrodd hynny heb roi pwysau arno e.e. “aeth dad...” “cariodd Poppy beth?”.

Gallwch hefyd ofyn i'ch plentyn ddangos i chi neu fynd â chi at beth fyddant yn siarad amdano 

  • Rhowch sylw i gynnwys yr hyn y bydd y plentyn yn ei ddweud yn hytrach na rhoi sylw i'w dull o gynhyrchu pob sain. Bydd hyn yn dangos eich bod yn dymuno siarad a'ch bod yn gwrando.
  • Byddwch yn gydymdeimladwy - dywedwch mai chi sydd ar fai. Dywedwch wrth eich plant nad oedd eich clustiau yn gweithio mor dda ag y dylent! 
  • Os byddwch yn clywed y plentyn yn gwneud camgymeriad, ceisiwch beidio â'i gywiro. Yn lle hynny, ailadroddwch beth maent wedi'i ddweud ond defnyddiwch y sain gywir, e.e. "mami, sbïa, tath", byddwch chi'n dweud "ia, cath ydy honna".