Neidio i'r prif gynnwy

Rhyngweithio Cymdeithasol

Datblygu Sgiliau Cyfathrebu Cymdeithasol cynnar drwy Chwarae.

Mae sgiliau cymdeithasol yn dechrau'n gynnar trwy edrych, gwenu, dweud gw-gw a chopïo. Fodd bynnag, bydd plant sydd ag anawsterau cyfathrebu yn aml yn cael trafferth â sgiliau cymdeithasol, ac weithiau, gall fod yn anodd iddynt ymgysylltu yn y byd o'u cwmpas. Gall plentyn sydd ag anawsterau cyfathrebu cymdeithasol dreulio llawer o amser 'yn ei fyd bach ei hun' ac efallai y bydd yn fodlon ei fyd yn cael chwarae ar ei ben ei hun, ac yn ceisio sylw gan oedolion yn anaml iawn.

Sut allwch chi helpu?

Neilltuwch 15-20 munud ddwywaith y dydd mewn man tawel ar gyfer 'amser chwarae arbennig' er mwyn ymgorffori'r cynghorion doeth yn eich arferion beunyddiol. Os ydych chi mewn meithrinfa neu ysgol, gall fod yn ddefnyddiol i chi chwarae rhywle y tu allan i'r ystafell ddosbarth brysur.

Cofiwch, dylai amser chwarae fod yn ddifyr ac yn ysgogol, ac ni ddylid ei ystyried yn adeg i 'addysgu' rhywbeth yn benodol. Drwy helpu plant i rannu eu chwarae ag oedolyn, byddwn yn cynnig cyfleoedd naturiol iddynt brofi rhyngweithio cymdeithasol, dysgu o'u sgiliau cyfathrebu a'u datblygu.

Cynghorion Doeth 

Dewiswch y teganau priodol: Dewiswch rywfaint o deganau syml y mae'r plentyn yn hoffi chwarae â hwy. Gall fod yn ddefnyddiol iawn sicrhau bod gennych ddau o'r un tegan fel y gallwch gyfranogi a chopïo'r plentyn.

Gadewch i'r plentyn arwain: Mae angen i'ch amser arbennig fod yn ddifyr a dylai eich plentyn allu rheoli'r chwarae. Ceisiwch ddilyn y pethau y bydd y plentyn yn dymuno'u gwneud, hyd yn oed os byddant yn swnio'n bethau dwl.

Eisteddwch yn ôl a gwyliwch: Byddwch yn cael eich temtio i ymyrryd yn syth ond mae eistedd yn ôl a gwylio yn bwysig iawn. Ceisiwch ganfod beth mae'r plentyn yn hoffi ei wneud, beth mae'n ei hoffi ynghylch rhai teganau penodol a beth mae'n ceisio ei gyfleu. Bydd angen i chi wylio a gwrando'n ofalus oherwydd gallwch golli llawer o'r cyfathrebu, er enghraifft, edrychiad sydyn neu sŵn tawel.

Ewch i lawr at lefel y plentyn: Sicrhewch y gall y plentyn eich gweld yn rhwydd a chofiwch roi'r argraff fod gennych ddiddordeb yn y pethau y bydd yn eu gwneud. Bydd hyn yn dangos eich bod yn barod i chwarae. 

Cyfranogwch pan fydd hynny'n teimlo'n briodol:  Rydych chi fel rhieni yn adnabod eu plentyn yn well na neb arall, felly byddwch gobeithio yn gwybod pan fydd hi'n adeg briodol. Arhoswch am giledrychiadau ac ystumiau sŵn sy'n dangos i chi ei fod am i chi gyfranogi.

Copïwch chwarae'r plentyn:  Gwnewch beth fydd y plentyn yn ei wneud a chopïwch ei weithredoedd, ei symudiadau, ei synau a'i eiriau. Bydd hyn yn annog y plentyn i sylwi arnoch chi a dod i weld beth fyddwch yn ei wneud, a gallwch gychwyn chwarae gêm sy'n defnyddio troeon. Nid oes rhaid i chi gopïo unrhyw fath o ymddygiad sydd ddim yn cyd-fynd â rheolau eich cartref/ysgol.

Defnyddiwch sylwadau syml: Gall gofyn llawer o gwestiynau fod yn llethol. Yn hytrach, disgrifiwch beth fydd y ddau ohonoch yn edrych arno neu'n ei wneud, er enghraifft, 'edrycha, mae'r ci'n neidio'.

Dehonglwch gyfathrebu'r plentyn. Hyd yn oed pan na fydd y plentyn yn siarad, ceisiwch ystyried beth fydd yn ceisio'i gyfleu. Os bydd y plentyn yn dangos ei fod yn hoffi rhywbeth, gwnewch hynny eto i ddangos iddo eich bod wedi deall beth yr oedd arno eisiau. Ymatebwch mor gyflym ag y gallwch fel y gall y plentyn ddysgu sut i adnabod y cyswllt uniongyrchol rhwng ei gyfathrebu a'ch ymateb.

Peidiwch â digalonni os na fyddwch yn teimlo eich bod yn cael llawer o ymateb gan y plentyn i ddechrau. Daliwch ati a rhowch gynnig ar bethau newydd. Ceisiwch beidio â llethu'r plentyn ac os bydd yn ymbellhau oddi wrthych, dyna fwy na thebyg fydd ei ddull o'ch hysbysu ei fod yn awyddus i gael egwyl. Mae hynny'n iawn! Parchwch beth fydd wedi'i gyfleu i chi a rhowch gynnig arni eto yn ddiweddarach.