Neidio i'r prif gynnwy

Rhoi Sylw a Gwrando

Datblygu Sgiliau Rhoi Sylw a Gwrando

Mae angen i blant ddysgu eu sgiliau rhoi sylw cyn iddynt ddysgu sgiliau newydd, yn cynnwys dysgu sut i gyfathrebu. Mae angen i blant allu bod yn ymwybodol o synau eu hamgylchedd er mwyn datblygu eu dealltwriaeth o'r byd a sut mae'n gweithio. Mae angen i blant ddysgu troi eu sylw at bethau gwahanol. Fel arfer, bydd hyn yn cychwyn trwy ddysgu rhoi sylw i bobl, yna rhoi sylw i wrthrychau, cyn gallu rhannu eu sylw rhwng  pobl a gwrthrychau. Bydd rhai plant yn datblygu'r sgiliau hyn yn naturiol, ond bydd ar eraill angen amser i'w dysgu'n raddol.

Cynghorion Doeth 

  • Dylech sicrhau fod llai o bethau sy'n tynnu sylw. Diffoddwch y teledu a'r radio i sicrhau y bydd hi'n haws i'r plentyn roi sylw.
  • Ewch lawr at lefel y plentyn. Sicrhewch y gall y plentyn eich gweld yn rhwydd.
  • Galwch enw'r plentyn. Disgwyliwch iddo edrych arnoch chi cyn i chi wneud unrhyw beth arall.
  • Defnyddiwch ystumiau a gwrthrychau. Gall yr ysgogiadau hyn helpu i hoelio sylw plentyn a'i helpu i ddeall hefyd.
  • Gadewch i'r plentyn arwain y chwarae: Cyfranogwch yn beth bynnag y bydd ef neu hi yn ei wneud, yn hytrach na cheisio arwain y chwarae.
  • Byddwch yn ddwl. Ceisiwch ddilyn y pethau y bydd y plentyn yn dymuno'u gwneud, hyd yn oed os byddant yn swnio'n bethau dwl.
  • Dylech gyflwyno teganau a gweithgareddau cyffrous a difyr. Bydd plant yn dysgu orau pan fyddant yn cael hwyl, yn cael eu cymell ac yn teimlo'n chwilfrydig.
  • Sicrhewch fod unrhyw gyfarwyddiadau'n fyr. Cofiwch sicrhau fod yr iaith y byddwch yn ei defnyddio yn cyd-fynd â lefel dealltwriaeth eich plentyn.

Dulliau o Wella Sgiliau Gwrando 

  • Synau Anifeiliaid. Gwnewch synau anifeiliaid wrth ddangos anifeiliaid tegan neu luniau o anifeiliaid i'r plentyn, yna, gwnewch y synau ar hap a gofynnwch i'r plentyn pa anifail sy'n gwneud sŵn penodol.
  • Paru synau. Cyflwynwch 3 gwrthrych gwahanol sy'n gwneud sŵn (e.e. ratls, allweddi, papur sidan) a dangoswch i'r plentyn pa sŵn y mae pob un yn ei gynhyrchu. Gofynnwch i'r plentyn gau ei lygaid tra byddwch chi'n creu sŵn gan ddefnyddio'r un o'r gwrthrychau a gofynnwch i'r plentyn ddyfalu pa  wrthrych a wnaeth ba sŵn.
  • Yn Barod, Gan Bwyll, Ewch. Anogwch y plentyn i ddisgwyl nes bydd yn clywed 'Ewch', e.e. adeiladu/dymchwel tyrrau, gollwng balŵn neu rolio pêl.
  • Gemau Cymryd Troeon. Ceisiwch gynyddu'r amser y bydd y plentyn yn fodlon ei dreulio yn cymryd troeon, er enghraifft, ychwanegu briciau i adeiladu tŵr yn eu tro, neu roi darnau mewn pos jig-so.
  • Chwarae Cuddio. Gofynnwch i'r plentyn guddio 6 o bethau o amgylch yr ystafell a gofynnwch i'r plentyn ganfod pob un fesul un. Os gall y plentyn wneud hyn yn rhwydd, gofynnwch iddo/iddi ganfod dau neu dri o bethau ar yr un pryd.
  • Straeon a Llyfrau. Darllenwch stori am anifail (e.e. cath neu gi). Bob tro y caiff yr anifail ei grybwyll, bydd yn rhaid i'r plentyn wneud sŵn yr anifail. 
  • Caneuon a Straeon Actol. Anogwch y plentyn i eistedd a gwrando ar ganeuon neu straeon. Dywedwch wrtho fod arnoch angen ei gymorth, yna methwch eiriau a gofynnwch iddo lenwi'r bylchau, e.e. “does dim y fath beth â…..(Gruffalo)”.
  • Straeon Dwl. Rhybuddiwch y plentyn y byddwch yn gwneud camgymeriadau wrth ddarllen stori gyfarwydd, a gofynnwch i'r plentyn a all eu nodi.
  • Chwarae Rhewi neu Chwarae Newid Cadeiriau. Bydd angen i'r plant wrando'n ofalus i glywed pan fydd y gerddoriaeth yn chwarae.
  • ‘Dywed Simon’. Defnyddiwch gyfarwyddiadau rhwydd i ddechrau cyn eu gwneud yn anos ac yn hirach. Dywedwch wrth y plentyn y bydd angen iddo wrando'n ofalus oherwydd efallai gall rhai pethau ei faglu, er enghraifft, 'Dywed Simon, paid â chyffwrdd dy drwyn'.
  • Troeon Gwrando. Ewch am dro gyda'r teulu/yn yr ysgol a gwrandewch er mwyn canfod yr holl synau gwahanol y gallwch eu clywed. Ar ôl dychwelyd, ceisiwch weld pwy a all gofio'r rhan fwyaf o synau a lluniwch restr o'r holl synau y gwnaethoch eu clywed a gwrando arnynt.