Neidio i'r prif gynnwy

Pryder ynghylch llefaru

Mae rhai plant yn naturiol dawel a bydd y plant hyn yn cael eu disgrifio fel rhai sydd â phersonoliaeth swil neu dawel gartref ac mewn lleoliadau eraill.  Fodd bynnag, os byddwch yn sylwi na fydd plentyn yn siarad yn eich lleoliad, ni ddylech gymryd yn ganiataol ei fod yn blentyn tawel heb sgwrsio â'r rhieni yn gyntaf. Os bydd rhieni yn dweud wrthych chi nad yw eu plentyn yn dawel gartref, mae'n debyg fod y plentyn yn dawel yn eich lleoliad oherwydd pryder, gorbryder neu ofni siarad. 

Mae'n bwysig deall bod plant sy'n profi gorbryder ynghylch siarad yn dymuno siarad, ond maent yn ofni'r weithred o siarad. Gallant 'rewi' wrth geisio siarad, a bydd rhai plant yn dweud y byddant yn teimlo rhwystr yn eu llwnc, sy'n atal eu lleisiau rhag dod allan. Mudandod Dethol yw'r enw ar y ffobia penodol hwn neu ofni siarad.

Mae Nodi'n Gynnar yn allweddol

Nid ydym yn dymuno gweld plant yn teimlo'n bryderus nac yn orbryderus na theimlo'n negyddol ynghylch siarad yn hwy na'r hyn sy'n ofynnol. Mae plant yn dymuno cyfathrebu, ac felly, os byddwch chi'n sylwi na fydd plentyn yn siarad llawer neu os na fydd yn siarad o gwbl, ni ddylid anwybyddu hynny.

  • Dyma rai o arwyddion mwyaf cyffredin pryder ynghylch llefaru: 
  • Rhewi a dod yn llonydd yn ddisymwth pan fydd angen siarad mewn sefyllfaoedd penodol
  • Osgoi sefyllfaoedd lle gellid disgwyl iddynt siarad 
  • Peidio â chyfranogi mewn chwarae a lleisio digymell
  • Dod yn eithriadol o dawedog a swil

Saesneg fel Iaith Ychwanegol (EAL)

Yn gyffredinol, mae'n dderbyniol disgwyl i blant dwyieithog dreulio mwy o amser yn datblygu'n siaradwyr hyderus mewn amgylchedd iaith newydd. Fodd bynnag, buasech yn dal i ddisgwyl clywed y plant hyn yn siarad yn iaith eu haelwyd neu'n cyfathrebu gan ddefnyddio dulliau dieiriau. Peidiwch ag anwybyddu arwyddion pryder ynghylch llefaru yn achos plant sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg fel ail iaith.  

Beth allwch chi ei wneud i helpu?

Tawelwch eu meddwl. Os byddwch yn credu bod plentyn yn dangos arwyddion pryder ynghylch llefaru, bydd angen tawelu meddwl y plentyn. Gall cael sgwrs i roi sicrwydd i'r plentyn eich bod yn gwybod ei fod yn dymuno siarad ond yn cael trafferth gwneud hynny gynorthwyo i liniaru'r pwysau cychwynnol hynny.

  • Dim pwysau. Peidiwch â rhoi pwysau ar y plentyn i siarad, a sicrhewch y plentyn na fydd neb yn rhoi pwysau arno i siarad.
  • Awyrgylch hamddenol. Dylech greu awyrgylch hamddenol a chyfeillgar o amgylch y plentyn.
  • Datblygwch empathi.  Gwnewch bethau y mae'r plentyn yn eu mwynhau a defnyddiwch ei hoff deganau a'i hoff weithgareddau.
  • Amser unigol. Ceisiwch neilltuo amser ar gyfer cyfnodau o chwarae un ac un. Gall fod yn ddefnyddiol neilltuo gweithiwr allweddol i dreulio mwy o amser un ac un gyda'r plentyn a helpu i fagu ymddiriedaeth a hyder.
  • Gwenwch. Dylech gyfleu wyneb sy'n cysuro ac yn gwenu. Rhowch wybod i'r plentyn eich bod yn mwynhau bod yn ei gwmni trwy ddweud pethau megis 'mae hyn yn ddifyr'. Mae'n allweddol dangos i'r plentyn fod gennych chi ddiddordeb ynddo, nid diddordeb yn eu siarad yn unig.
  • Siarad gan ddefnyddio dull cynnig sylwadau. Mae plant sy'n pryderu am siarad yn mwynhau bod gyda phobl sy'n fodlon gwneud yr holl siarad. Daliwch ati i siarad a chynnig sylwadau am yr hyn y bydd y plentyn yn ei wneud oherwydd bydd hyn yn helpu'r plentyn i deimlo'n dawelach ei feddwl.
  • Gofynnwch lai o gwestiynau. Yn hytrach na gofyn cwestiynau uniongyrchol i'r plentyn ynghylch y pethau y bydd yn eu gwneud, er enghraifft, yn lle gofyn, 'beth yw'r llun rwyt ti wedi'i dynnu?',  dywedwch 'Rwy'n hoff iawn o dy luniau o goed!' Os byddwch chi'n gofyn cwestiwn uniongyrchol yn anfwriadol ac ni fydd y plentyn yn ateb, atebwch y cwestiwn eich hun neu osgowch hynny trwy ddweud 'gawn ni benderfynu yn nes ymlaen'.
  • Crëwch gyfleoedd i siarad. Cynigwch gyfleoedd i'r plentyn siarad yn hytrach na'i orfodi i wneud rhywbeth, e.e. 'Hmm, pa ddarn o'r trac ddylwn i ddefnyddio nesaf?' ac oedwch cyn dweud ‘Fedra'i ddim gweld darn crwn yn unman!’
  • Byddwch yn gadarnhaol.  Ymatebwch yn gadarnhaol i unrhyw ymdrechion y bydd y plentyn yn eu gwneud i gyfathrebu, yn llafar neu'n ddieiriau. Os bydd y plentyn yn ymateb yn ddieiriau i chi, e.e. yn nodio ei ben, dylech ateb fel pe bai wedi siarad â chi.
  • Caniatewch eithriadau. Gallwch ddangos fod codi llaw, codi bawd neu gyswllt llygaid yn dderbyniol ar adeg cofrestru os bydd y plentyn yn cael trafferth ateb.
  • Mae normalrwydd yn allweddol. Os bydd y plentyn yn siarad, dylech drin hyn fel rhan o'r rhyngweithio normal neu arferol. Peidiwch â dwyn sylw at y ffaith na fydd wedi siarad.
  • Byddwch yn onest ac yn ddidwyll wrth drafod â'r rhieni.  Bydd y plentyn yn siarad gartref, felly efallai na fydd y rhieni yn gwybod ei fod yn cael trafferth siarad yn yr ysgol. Bydd gan rieni rôl bwysig i'w chyflawni o ran datblygu gallu eu plentyn i siarad yn hyderus, felly mae'n bwysig eu diweddaru'n rheolaidd.

Beth sydd ddim yn fuddiol?

  • Gofyn cwestiynau uniongyrchol. Bydd gofyn cwestiynau uniongyrchol yn rhoi'r plentyn mewn picil, yn enwedig os bydd pobl eraill yn gwylio ac yn disgwyl am ateb.
  • Gwylio a disgwyl. Ceisiwch beidio ag edrych i fyw llygaid y plentyn pan fyddwch yn gobeithio y gwnânt ddweud rhywbeth.
  • Defnyddio pwysau neu lwgrwobrwyo. Bydd ceisio perswadio neu lwgrwobrwyo'r plentyn yn gwneud iddo deimlo'n fwy pryderus ac yn ofnus ynghylch siarad.
  • Defnyddio Cosbau. Ni ddylid cosbi'r plentyn ac ni ddylai wynebu unrhyw anfantais am beidio â siarad, e.e. methu'r amser chwarae oherwydd na wnaeth ateb cwestiwn yn ystod amser cylch.
  • Ymrwymwch i gymell y plentyn i siarad. Bydd y sawl sy'n amharod i siarad yn gwneud mwy o gynnydd mewn amgylchedd heb unrhyw bwysau.
  • Eu trin yn wahanol. Ceisiwch gael hwyl fel y buasech chi gyda phawb arall.
  • Rhoi sylw diddiwedd i'r mater.  Peidiwch â rhoi sylw diddiwedd i'r pethau na all y plentyn eu gwneud. Yn lle hynny, cynigwch ddigonedd o gyfleoedd.
  • Ymateb pan fydd y plentyn yn siarad. Er y gall hynny fod yn anodd, ceisiwch ddal ati fel pe bai'r plentyn yn wastad wedi siarad, gan ymateb yn gadarnhaol i beth ddywed y plentyn, nid i'r ffaith ei fod wedi siarad.
  • Trafod y pryder yng ngwydd y plentyn. Ceisiwch gynnal cyfarfodydd mewn lle preifat ble na all y plentyn eich clywed yn trafod ei drafferthion â siarad yn yr ysgol.

Ceisiwch beidio â theimlo i'r byw nac yn ddig os bydd y plentyn yn parhau'n dawedog. Byddwch yn amyneddgar a chymdymdeimladwy, a daliwch ati â'r strategaethau a nodir uchod.