Neidio i'r prif gynnwy

Iaith Fynegiannol

Defnydd o iaith (iaith fynegiannol)

Mae defnyddio iaith yn golygu gallu defnyddio geiriau, ymadroddion a brawddegau yn ystyrlon ac yn gywir o safbwynt gramadegol. Mae defnyddio iaith yn bwysig oherwydd mae'n caniatáu i blant allu mynegi eu dymuniadau a'u hanghenion, rhannu syniadau, adrodd straen, ateb cwestiynau a dadlau dros eu safbwynt yn ogystal â llawer o bethau eraill.

I allu defnyddio iaith yn llwyddiannus, mae angen i ni allu labelu gwrthrychau, disgrifio camau gweithredu a digwyddiadau, cyfuno geiriau i greu brawddegau a defnyddio holl reolau gramadeg.

Pethau a all effeithio ar allu plant i ddefnyddio iaith:

  • Diffyg sylw a sgiliau gwrando gwael
  • Diffyg dealltwriaeth o ran geiriau ac iaith
  • Geirfa gyfyngedig
  • Diffyg gallu i ganfod geiriau
  • Trafferthion â'r cof
  • Lefel gyffredinol datblygiad plant
  • Diffyg awydd i gyfathrebu

Sut all plant ymateb pan fyddant yn cael trafferth defnyddio iaith:

  • Siarad llai na'u cyfoedion neu siarad yn helaeth ond yn aneglur.
  • Camenwi llawer o bethau, er enghraifft, galw 'cath' yn 'fuwch'.
  • Defnyddio geiriau allweddol yn unig a methu geiriau gramadegol llai, e.e. y mae ond.
  • Peidio â chynnwys olddodiaid mewn gair
  • Defnyddio brawddegau dryslyd â geiriau yn y drefn anghywir
  • Gwneud camgymeriadau gramadegol megis defnyddio 'hi' i ddisgrifio bachgen.
  • Cael trafferth canfod geiriau a defnyddio llawer o eiriau llenwi bylchau megis 'ym' a 'fel'.

Sut i helpu plant i ddeall iaith

Defnyddio sylwebaeth. Siaradwch yn uchel a chynigwch sylwebaeth ynghylch beth fyddwch chi neu beth fydd eich plentyn yn ei wneud, ei weld, ei glywed neu ei deimlo, er enghraifft, 'Mae'r car yna yn gyrru'n gyflym iawn', 'Mae llawer o bobl yn y bws mawr coch yna', 'mae'r gyrrwr bws caredig newydd wenu arnom ni'.

Peidiwch â 'chywiro' camgymeriadau. Yn lle hynny, ailadroddwch yr hyn y bydd y plentyn yn ei ddweud fel y bydd yn clywed modelu da, ehangwch yr iaith trwy ychwanegu gair neu ddau a phwysleisiwch y geiriau y byddwch yn dymuno dwyn sylw eich plentyn atynt. Er enghraifft, os bydd plentyn yn dweud 'fi mynd parc', gall yr oedolyn fodelu'n ôl gan ddweud 'byddwn ni'n dweud:  Dw i eisiau mynd i'r parc’ neu os bydd plentyn hŷn yn dweud ‘Mae Dadi wedi taflodd y bêl', gall yr oedolion ailadrodd 'Ydy, mae Dadi wedi taflu'r bêl.

Cynigwch ddewisiadau. I helpu plant hŷn i sylwi ar eu camgymeriadau eu hunain, gallwch ddweud, "ai 'Mae Dadi wedi taflodd' neu 'Mae Dadi wedi taflu' sy'n gywir?",    gan bwysleisio'r gair cywir.

Defnyddiwch Ystumiau. Crëwch ystumiau neu awgrymiadau arbennig i helpu'r plentyn i gofio, er enghraifft, arwyddion dyn/dynes i annog defnyddio'r rhagenwau fo/hi neu bwyntio y tu ôl i chi i awgrymu'r amser gorffennol.

Chwaraewch gemau geiriau/cofio.  Ymarferwch ddefnyddio geirfa neu nodweddion gramadegol newydd, er enghraifft, es i i siopa a phrynais i... (eitemau o'r pwnc targed, e.e. bwyd, nwyddau'r cartref ac ati).

Llyfrau. Darllen gyda'ch gilydd yw un o'r ffyrdd gorau o gynorthwyo i ddatblygu geirfa, gramadeg a sgiliau adrodd straeon plentyn. Yn hytrach na darllen y geiriau mewn llyfrau, rhowch gynnig ar edrych ar y lluniau a thrafod beth allwch chi ei weld. Gall yr oedolyn ofyn cwestiynau megis ‘pwy alli di ei weld?’ ('y llygoden'), ‘beth mae'n wneud?’ (’cerdded’) a ‘ble mae o?’ (’yn y goedwig’) i helpu'r plentyn i greu stori. Gallwch chi hyd yn oed gynnwys cwestiwn megis ‘tybed beth wnaiff ddigwydd nesaf?’

Ailadrodd straeon cyfarwydd. Ar ôl darllen llyfr cyfarwydd, gofynnwch i'r plentyn ailadrodd y stori gan ddefnyddio ei eiriau ei hun. Defnyddiwch y lluniau yn y llyfr i helpu i'w lywio.