Neidio i'r prif gynnwy

Geirfa

Pam mae geirfa mor bwysig?

Mae maint geirfa plentyn ifanc (faint o eiriau mae'n ei wybod) yn gallu dangos pa mor dda y bydd yn gallu darllen fel oedolyn.  Canfuwyd hefyd fod cysylltiad rhwng hynny a llwyddiant addysgol yn yr ysgol a hyd yn oed potensial i ennill cyflog.

Mae helpu plant i adeiladu eu geirfa'n bwysig iawn.  Mae darllen yn ffordd wych o helpu plentyn i ddatblygu geirfa ehangach a chynyddu ei wybodaeth gyffredinol.   Drwy glywed straeon, bydd plant yn cael clywed amrywiaeth eang o eiriau, a bydd hynny'n helpu i adeiladu eu storfa geirfa.   

Po fwyaf y nifer o weithiau y bydd plentyn yn clywed gair, y mwyaf  fydd y tebygolrwydd y gwnaiff ddysgu'r gair hwnnw.

Syniadau i roi cynnig arnynt wrth ddarllen llyfr: 

Annog y plentyn i fod yn 'dditectif geiriau':

  • Anogwch y plentyn i ofyn beth yw ystyr gair. Canmolwch y plentyn os bydd yn gofyn.  Eglurwch beth yw ystyr y gair a dywedwch y gair sawl gwaith mewn brawddegau gwahanol fel y gall glywed sut y gellir ei ddefnyddio.
  • Gwyliwch am eiriau cymhleth sydd efallai'n anghyfarwydd iddo, ac os na fydd yn holi amdanynt, gofynnwch iddo beth yw ystyr y geiriau hyn. Chwiliwch gyda'ch gilydd ar-lein i ganfod ystyron geiriau.
  • Gofynnwch beth all 'gair' ei wneud (gweithred) e.e. awyren yn "hedfan".
  •  Gofynnwch ble (lleoliad) allech ganfod y gair h.y. yn y sŵ/yr ardd/y môr/y llyfrgell ac ati.  "Ble fyddwn i'n gweld mwnci?" yn y sŵ, "ble fyddwn i'n gweld cennin pedr?" yn yr ardd; "ble allwn ni ganfod atlas?" yn y llyfrgell.
  • Ystyriwch pa gategori/grŵp y gallai gair newydd berthyn iddo.  E.e. 'sut fath o grŵp mae'r geiriau 'llong danfor' yn perthyn iddo?' : ‘Bwyd? Cludiant? Dillad?'. Ceisiwch feddwl am bethau eraill sy'n perthyn i'r un grŵp neu rai sy'n bethau tebyg (e.e. awyren, hofrennydd, hofrenfad, 'jet ski')

 Nid darllen yw'r unig ffordd i adeiladu geirfa

Gwrandewch ac edrychwch am eiriau newydd neu ddiddorol ar y teledu, pan fyddwch yn mynd am dro, neu pan fydd pobl yn sgwrsio.  E.e. "dywedodd y meddyg bod angen 'presgripsiwn' arnat ti.  Mae hwnna'n air newydd, tybed beth yw ei ystyr...wyt ti'n gwybod?" a thrafodwch.  Defnyddiwch air newydd sawl gwaith mewn gwahanol frawddegau, a dychwelwch at y gair y diwrnod canlynol i helpu'r i sicrhau y gwnaiff y gair 'lynu' ym meddwl eich plentyn 

Siaradwch am eiriau sydd â mwy nag un ystyr: E.e. "yn y banc mae pobl yn cadw arian ond dw i'n gwybod am fath arall o 'fanc', wyt ti?"

Gêm yr eithriad: Dewiswch 3-4 o wrthrychau/lluniau gan sicrhau bod un ohonynt yn perthyn i gategori gwahanol. Mae'n rhaid i'r plentyn nodi pa un yw'r "eithriad" a thrafod pam.  E.e. bws/car/ci = ci yw'r un gwahanol oherwydd mae'n anifail ac mae'r rhai eraill yn fathau o gludiant. Os yw hyn yn rhy hawdd, defnyddiwch eitemau o'r un categori e.e. bws/car/awyren = awyren yw'r un gwahanol oherwydd mae'n teithio drwy'r awyr ac mae'r rhai eraill yn teithio ar y ffordd fawr.

Straeon/caneuon dwl:  Mae cyfansoddi cân (neu rap) am eiriau yn ffordd hwyliog o gadw geiriau yng nghof plentyn.  Ail-adroddwch y gair newydd sawl gwaith yn y stori/gân.  Pwysleisiwch y gair newydd a chysylltwch y gair â phethau gwahanol yn y gân e.e. "Clywais y drwm uchel, uchel, uwchben sŵn y traed uchel, uchel yn taro'r llawr ond diflannodd sŵn y siarad uchel, uchel".  

Clapiwch rythm geiriau: Yn aml iawn, bydd pobl yn cam-glywed geiriau sydd â mwy nag un curiad/sillaf. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n anodd i blant ddysgu sŵn patrwm y gair, ac yn sgil hynny, bydd hi'n anodd dysgu'r gair. Clapiwch y sillafau a phwysleisiwch y synau ar ddechrau pob sillaf wrth i chi eu dweud E.e. “an-we-ddu” = 3 sillaf, “teithio” = 2 sillaf.

Crëwch eiriau lol: Faint o eiriau, hyd yn oed geiriau lol (rhai nad ydynt yn eiriau go iawn), y gallwch chi eu creu i gyd-fynd â'r geiriau newydd y byddwch yn eu canfod? E.e. 'Blodyn' - bachyn, asyn, beirddyn. Helpwch y plant i benderfynu a yw'r gair yn air go iawn neu'n air lol.

Cyflwynwch ‘Air y Dydd’ : Defnyddiwch y gair mor aml ag y gallwch chi yn ystod y dydd. Defnyddiwch eiriau newydd mewn llawer o frawddegau, ac adolygwch hynny dro ar ôl tro y diwrnod canlynol.  Mae angen sicrhau bod geiriau'n glynu!

Gêm dyfalu: Gan ddefnyddio llawer o luniau â'u hwyneb at i lawr, dewiswch un yn eich tro i'w disgrifio. Gall chwaraewyr gadw'r lluniau os byddant yn dyfalu beth yw'r llun yn sgil y disgrifiad a geir gan y chwaraewr arall. Sicrhewch y bydd y gêm yn ddifyr trwy sicrhau na chaniateir i’r ‘disgrifydd’ enwi’r peth y bydd yn ceisio'i ddisgrifio. Ceisiwch ddefnyddio cliwiau megis 'beth mae'n ei wneud', 'ble gallwch ei ganfod', 'sut mae'n teimlo wrth ei gyffwrdd' (e.e. caled, meddal, soeglyd) yn ogystal â 'sut mae'n edrych', 'pa rannau sydd ganddo' ac ati.

Crëwch wal geirfa (neu lyfr geirfa): Ysgrifennwch air newydd y bydd y plentyn yn ei ddysgu ar ddarn o bapur a'i roi yn rhywle y gellir ei weld (ar y rhewgell, wal ei ystafell wely neu lyfr lloffion).  Siaradwch am eiriau'n rheolaidd i'w helpu i lynu a thrafodwch ddealltwriaeth eich plentyn ohonynt.

Defnyddiwch y gair mor aml ag y gallwch chi: Wrth sgwrsio â'ch plentyn, dewiswch air sydd wedi codi'n ddiweddar a cheisiwch ei ddefnyddio mor aml ag y gallwch chi yn y sgwrs 'Edrycha ar yr hwyaid yna, maen nhw'n ddiddorol iawn.  Mae'r un yna'n sefyll ar un goes.   Mae fflamingo'n gwneud hynna, mae'r anifail yna'n ddiddorol hefyd, maen nhw mor dal a gosgeiddig ac mae ganddyn nhw liw mor anghyffredin, anifeiliaid diddorol iawn'.